Mae Ysgrifennydd Cymru wedi dweud y dylai ymchwiliad cyhoeddus i’r ffordd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymdrin â phandemig y coronafeirws edrych ar rôl y gweinyddiaethau datganoledig.
Dywedodd Simon Hart, er bod “penderfyniadau lleol” a wnaed yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, wedi bod yn angenrheidiol mewn mannau, roedd rhai rheolau penodol wedi “achosi dryswch”.
Dywedodd Mr Hart nad oedd yn cydnabod adroddiadau am ffrae rhwng Boris Johnson a Gweinidogion y Deyrnas Unedig ynghylch dewis deddfwriaeth iechyd a diogelwch i ymateb i’r argyfwng gan adael i’r pedair gwlad lunio eu cyfyngiadau a’u cyfreithiau eu hunain.
Ond dywedodd y dylai gweithredoedd a phenderfyniadau’r gwledydd datganoledig eu hunain fod yn rhan o ymchwiliad yn y dyfodol i’r ffordd y mae Mr Johnson wedi ymdrin â’r pandemig.
Dywedodd Mr Hart wrth newyddiadurwyr ddydd Mercher: “Fydden ni’n gwneud pob penderfyniad yn union yr un fath pe bai’n rhaid i ni fynd drwy’r cyfan eto? Bron yn sicr ddim.
“Fydden ni’n newid y trefniadau, a’r berthynas rhwng y pedair gwlad? Rwy’n credu mai dyna fydd ymchwiliad yn ei ddatgelu.
“Mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn glir, mae rhai adegau wedi bod pan gall amrywio ar sail ranbarthol – lle mae wedi bod yn angenrheidiol efallai i wneud rhywbeth gwahanol mewn un rhan o’r Deyrnas Unedig i’r llall – yn synhwyrol iawn, lle mae’r dystiolaeth yn [dangos hynny].
“Felly rwy’n credu y bydd yn ddiddorol iawn i ymchwiliad ddatgelu lle mae gwneud penderfyniadau lleol yn fuddiol, a lle mae efallai wedi achosi dryswch.
“Rwy’n credu ei bod yn rhy gynnar i mi ddweud ble maen nhw o reidrwydd, ond caiff eraill ddyfalu.”
Dywedodd Mr Hart fod gwahaniaethau rhwng y cenhedloedd yn iawn “os gallai’r dystiolaeth gyfiawnhau hynny”, ond yn absenoldeb y dystiolaeth honno gallent arwain at “rwystredigaeth a dryswch”.
Dywedodd: “Rydyn ni i gyd wedi’i weld, rydyn ni i gyd wedi gweld y ddadl honno’n cael ei chwarae’n gyhoeddus gan fanwerthwyr ar un ochr i’r ffin yn teimlo eu bod wedi cael eu rhoi dan anfantais.”
Dywedodd Mr Hart y dylid lansio ymchwiliad annibynnol i’r penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig “unwaith y gallwn ddweud yn wirioneddol ein bod ar ochr arall y pandemig, neu o leiaf y gwaethaf o’r pandemig”.
‘Nid ydym am redeg y Deyrnas Unedig fel Undeb Ewriopeaidd fach’, medd Boris Johnson
Yn y cyfamser, mae’r Prif Weinidog wedi dweud wrth ASau na ddylid rhedeg y DU fel “Undeb Ewropeaidd fach”.
Roedd Boris Johnson, fel rhan o wrandawiad ar ystod eang o faterion, yn wynebu cwestiynau yn y Pwyllgor Cyswllt ddydd Mercher am ei rôl yn cadw’r Deyrnas Unedig gyda’i gilydd.
Pwysodd Stephen Crabb, cyn-weinidog cabinet a chadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, ar Mr Johnson ynghylch a oedd gwneud Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, Michael Gove AS, yn gyfrifol am y berthynas gyda’r arweinwyr datganoledig yn ystod y pandemig yn beth call, yn hytrach na chymryd cyfrifoldeb ei hun.
Dywedodd Mr Johnson ei fod yn “flin” ganddo glywed bod Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi cwyno am ddiffyg cyswllt ac y byddai’n ceisio unioni’r sefyllfa.
Ond dywedodd y Prif Weinidog, er ei fod yn cael sgyrsiau rheolaidd gyda’r arweinwyr datganoledig, nad oedd am fabwysiadu model mwy ffederal ar gyfer Prydain.
Mewn cyfweliad yn 2015, fodd bynnag, dywedodd Mr Johnson, maer Llundain bryd hynny, y gallai fod yn rhaid i’r wlad “feddwl am strwythur ffederal i’r Deyrnas Unedig” mewn ymateb i gefnogaeth gynyddol i’r SNP.
Wrth annerch y Pwyllgor Cyswllt, dywedodd Mr Johnson: “Rwy’n gryf o blaid Cyngor yr Ynysoedd, er enghraifft, lle rydym yn dod at ein gilydd, cynrychiolaeth ar draws Ynysoedd Prydain i gyd, i siarad am faterion sy’n bwysig i ni.
“Ar y llaw arall, dydw i ddim yn meddwl ein bod am droi ein trafodaethau’n rhyw fath o Undeb Ewropeaidd fach, os gallaf ddweud hynny.
“Yn amlwg mae angen perthynas dda gyda phawb arnaf, ac rwyf wedi siarad droeon â Nicola (Sturgeon), Mark (Drakeford), Michelle (O’Neill) ac Arlene (Foster)… ac rwy’n parhau i wneud hynny – dyna’r ffordd y dylai fod.
“Yr hyn nad wyf yn credu fyddai o reidrwydd yn iawn yw cael rhyw fath o gyngor parhaol, fel petai, o’r math sy’n digwydd yfory ym Mrwsel.
“Dydw i ddim yn meddwl mai dyna’r model rydyn ni ar ei ôl.”
Galw am gyfarfod brys
Daw sylwadau’r Ysgrifennydd Cymru a Phrif Weinidog Prydain yn sgil galwad gan Weinidogion o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon am gyfarfod brys gyda phenaethiaid y Trysorlys, gan gyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o osgoi’r llywodraethau datganoledig.
Gallwch ddarllen mwy am hynny isod.
Gweinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn codi llais yn erbyn llywodraeth Prydain