Mae mesur dadleuol a fydd yn cyfyngu ar yr hawl i brotestio “wedi arwain at y tân sydd gyda ni ar hyn o bryd,” yn ôl Comisiynydd Heddlu’r Gogledd.

Mae Bil yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd wedi ennyn beirniadaeth hallt ac wedi esgor ar wrthdystio yn y Deyrnas Unedig.

Ym Mryste mae 14 o bobol wedi cael eu harestio yn sgil ail ddiwrnod o brotestio tanllyd, ac mae adroddiadau’n awgrymu bod cryn densiwn rhwng gwrthdystwyr a’r heddlu.

“Ffradach”

Dyw’r Comisiynydd Heddlu, Arfon Jones, ddim yn cefnogi’r mesur, ac mae yntau’n teimlo bod y Bil wedi rhoi matsien i sefyllfa a oedd eisoes yn ffrwydrol.

“Y broblem ydy, mae pob peth wedi dod ar ben ei gilydd,” meddai. “Mae’r cyfyngiadau a’r busnes covid wedi bod efo ni ers dros flwyddyn.

Mae Sarah Everard wedi cael ei lladd. Mae gwylnosau [wedi’u cynnal].

“Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi dweud wrth Gomisiynydd Heddlu’r Met i glampio i lawr ar brotestiadau. Maen nhw wedi gwneud hynna. Ac mae wedi mynd yn gwbl ffradach a dweud y gwir.

“Ac mae hynna’n uniongyrchol wedi arwain at y protestiadau troseddol sydd wedi digwydd ym Mryste. Ond doedd dim angen i hyn ddigwydd.

“Os buasa nhw wedi edrych ar beth fuasa consequences hyn i gyd, buasa nhw wedi gweld bod pobol wedi cael llond bol ar gyfyngiadau.

“Ac maen nhw wedi trio rhoi mwy o gyfyngiadau ar brotestio ar ben hynny. Ac mae hynny wedi arwain at y tân sydd gyda ni ar hyn o bryd.”

#KillTheBill

Mae Arfon Jones yn pwysleisio nad yw’n cefnogi natur y protestio gan rhai ym Mryste, ac mae’n anhapus â defnydd hash-nod sy’n cael ei ddefnyddio ar Twitter i gyfeirio at y Bil.

“Dw i ddim yn cydymdeimlo efo troseddu, a’r trais sydd wedi bod yn mynd ymlaen,” meddai. “A dydw i ddim yn keen ar y hashtag#KillTheBill’.

“Mae hynna’n cael ei gamddeall fel un ai lladd plismyn, neu ladd y Bil sy’n mynd trwy’r Senedd.

“Dw i’n gwybod yn union beth maen nhw’n sôn amdan. Ond dydy o ddim yn darllen yn dda. Dydy o ddim yn edrych yn dda.

“Felly mae genna i gydymdeimlad efo pobol sydd isio protestio. Ac mae gen i gydymdeimlad efo pobol yn Clapham.

“Mi oedd protestiadau wedi bod yng Nghaerdydd a Chasnewydd hefyd heb ymyrraeth yr heddlu. Ac mi aethon nhw ymlaen yn iawn.

“Wrth gwrs, dw i ddim yn cefnogi’r trais sydd wedi bod yn digwydd ym Mryste.”