Mae penderfyniad llywodraeth Geidwadol Prydain i eithrio sir Caerffili o’i menter cymorthdaliadau rhanbarthol sydd fod i gymryd lle arian Ewropeaidd yn gyfystyr â “brad”, yn ôl Delyth Jewell AS.

Mae’r Torïaid wedi cyhoeddi rhestr o 100 o ardaloedd fydd yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer dyrannu arian o’r Gronfa Adnewyddu Rhanbarthol ond nid yw’n cynnwys Caerffili, er bod y sir yn cynnwys rhai o’r cymunedau tlotaf yn y Deyrnas Unedig.

Pan roedd y Deyrnas Unedig yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, roedd Caerffili yn rhan o’r rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, wnaeth dderbyn biliynau mewn arian Ewropeaidd.

Cymunedau tlotaf

Gan ymateb i’r newyddion y bydd Caerffili nawr yn cael ei eithrio o’r arian, dywedodd Delyth Jewell AS, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Caerffili ar gyfer etholiad Senedd 2021: “Mae’n anghredadwy fod y Torïaid wedi penderfynu eithrio sir Caerffili o’r fenter sydd fod i gymryd lle cyllid Ewropeaidd, er fod yr ardal yn cynnwys rhai o’r cymunedau tlotaf yn y Deyrnas Unedig.

“Mae hyn yn frad gwarthus o Gaerffili a phrawf nad oes gan y Torïaid unrhyw ddiddordeb mewn cefnogi trigolion lleol.

“Fe wnaethon nhw dorri eu haddewid na fyddi Cymru yn colli ceiniog o ganlyniad i Brexit, ac maen nhw nawr yn targedu’r cymorthdaliadau rhanbarthol at ardaloedd Torïaidd cyfoethog fel etholaeth y Canghellor ei hun, yn hytrach na chefnogi cymunedau fel Caerffili sydd dirfawr angen mwy o arian.

“Mae nawr yn gwbl glir bod y Torïaid yn ailafael â’i hen arferion o ymosod ar gymunedau Cymreig, fel y gwnaethant yn yr 80au, tra’n gwneud popeth o fewn eu gallu i danseilio datganoli a dadrymuso’r Cymry.

“Mae Llafur wedi bod yn gwbl aneffeithiol yn gwrthwynebu’r Torïaid – byddai Cymru mewn sefyllfa llawer cryfach gyda llywodraeth dan arweiniad Plaid Cymru fyddai’n gwbl benderfynol o roi terfyn ar reolaeth Dorïaid dros Cymru am byth, a thargedu buddsoddiad at ardaloedd sydd ei angen fwyaf.”