Mae’r pandemig yn “gyfle bendigedig i ad-drefnu’r adeiladau a ddefnyddiwn i gynnal addoliad”, meddai Rhodri Glyn Thomas sy’n gyn-Weinidog Treftadaeth yn Llywodraeth Cymru…

Bu hanes rai wythnosau’n ôl yn Golwg am ddau fudiad oedd â’u bryd ar gadw capeli ac eglwysi oedd mewn perygl o gael eu gadael i ddirywio hyd nes eu bod yn adfeilion. Byddai hynny, meddir, “yn un o droseddau treftadaeth mwyaf ein hoes”.