Ysgrifennaf yn dilyn cyfraniadau Cynog Dafis (Golwg 4/3/21 ac 18/3/21), Rhys Edwards (Golwg 11/3/21) a Menna Jones (Golwg 18/3/21) i’r drafodaeth ar bwnc pwysig y farchnad dai.

Yr hyn sy’n fy mhoeni am y drafodaeth ar dai yn gyffredinol yw nad yw hi’n symud fawr yn ei blaen ers hanner can mlynedd, ond mae Cynog a Menna yn cynnig rhai syniadau newydd o bwys.