Wel dw i’n falch bod hynny drosodd. Tydw i erioed wedi mwynhau darbi de Cymru.

Na, yn meddwl amdani, dydy hynny ddim yn wir. Mae gôl John Buchanan yn 1980 yn un o fy atgofion cynharaf o wylio’r gemau rhwng Caerdydd ac Abertawe. Ac roedd yna gwpl o deithiau bendigedig i’r Vetch yn yr wythdegau hwyr.

Ond ers y digwyddiad anffodus pan ges i fy nghyhuddo o ddechrau reiat gan Heddlu De Cymru yn 1994, dw i wedi osgoi’r gêm yn gyfan gwbl. (Roeddwn i’n hollol ddiniwed, cyn i chi ofyn).