“Tydan ni ddim yn gwybod sut bydd yr anghenfil yma’n newid yn yr wythnosau nesaf,” meddai’r Cynghorydd Llinos Medi Huws wrth drafod ymlediad y pandemig yn ardal Caergybi o Ynys Môn.

A hithau wedi arwain y cyngor sir yn ystod blwyddyn o bandemig, mae Llinos Medi Huws o Blaid Cymru yn bryderus iawn ar hyn o bryd.