Mae yna gwestiynau o hyd ynghylch cadw ceiswyr lloches mewn gwersyll milwrol yn Sir Benfro, ac mae angen sicrhau bod y rheiny a oedd ynghlwm â phenderfyniadau ar y lefel uchel yn “cael eu dal i gyfri”.

Dyna mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, wedi ei ddweud yn ymateb i’r penderfyniad i gau’r gwersyll dadleuol.