Ddechrau’r wythnos daeth carfan Cymru i hyfforddi yng Ngwesty’r Vale ym Mhontyclun, ger y brifddinas.

Roedden nhw yn cychwyn eu hymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2022 draw yn Heverlee nos Fercher, gyda gêm galed yn erbyn Gwlad Belg.

Ac mae gêm gyfeillgar yng Nghaerdydd nos Sadwrn yn erbyn Mecsico, cyn yr ail gêm ragbrofol Cwpan y Byd gartref yn erbyn y Weriniaeth Tsiec nos Fawrth nesaf.

Mae’r gemau i’w gweld ar S4C.