Mae 14 o bobol wedi cael eu harestio ym Mryste ar ôl i brotest arall droi’n helynt yn y ddinas.
Roedd plismyn arbenigol o Gymru ymhlth yr heddluoedd o ranbarthau cyfagos a gafodd eu hanfon i College Green, lle dywedodd yr heddlu fod tua 130 o bobl wedi ymgynnull.
Fe wnaeth Heddlu Avon a Gwlad yr Haf drydar tua 2.40am bod y brotest “bellach wedi dod i ben ar ôl i blismyn orfodi deddfwriaeth Covid-19”.
Hwn oedd y brotest ddiweddaraf yn y ddinas yn erbyn Mesur Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd y Llywodraeth, a fydd rhoi pwerau newydd i’r heddlu fynd i’r afael â phrotestiadau.
Dywedodd datganiad diweddarach bod 14 o bobol wedi cael eu harestio am droseddau gan gynnwys torri deddfwriaeth Covid-19 a rhwystro priffordd, gydag un arestiad mewn cysylltiad â thrais dydd Sul (Mawrth 21).
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Claire Armes: “Ar ôl y golygfeydd o drais a welwyd yn y ddinas dros y penwythnos roedd angen dod ag adnoddau ychwanegol i mewn gan ein lluoedd cyfagos i sicrhau bod y brotest yn dod i ben yn ddiogel.”
Yn y cyfamser, fe wnaeth yr heddlu sy’n ymchwilio i derfysg ym mhrotest dydd Sul ym Mryste ryddhau lluniau o 10 o bobol maen nhw’n dymuno eu cwestiynu.
Roedd trais yng nghanol y ddinas dros y penwythnos, gyda gorsaf heddlu’n cael ei ymosod, 21 o blismyn wedi’u hanafu a cherbydau’n cael eu gosod ar dân.
Daeth tua 3,000 o bobl i’r brotest heddychlon ar College Green ond trodd digwyddiadau’n dreisgar ar ôl i tua 500 o bobol heidio tuag at orsaf heddlu New Bridewell.
“Golygfeydd gwarthus”
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Carolyn Belafonte: “Mae’n sicr mai’r ymchwiliad i drais dydd Sul fydd un o’r mwyaf yn hanes Heddlu Avon a Gwlad yr Haf.
“Mae mwy na 100 o swyddogion a staff yn parhau i weithio ar yr ymchwiliad sy’n cael ei arwain gan ein tîm ymchwilio troseddau mawr.
“Mae cannoedd o oriau o ddeunydd digidol eisoes wedi’u hadolygu ac mae lluniau o 10 o bobol y mae ditectifs am siarad â nhw am ddigwyddiadau dydd Sul wedi’u rhyddhau.”
“Rydym yn disgwyl rhyddhau lluniau llawer mwy o bobl yn y dyddiau nesaf a gofyn i unrhyw un sy’n adnabod unrhyw un gysylltu â ni.”
Condemniodd y Prif Weinidog Boris Johnson y terfysg gan ddisgrifio’r golygfeydd fel rhai “annerbyniol”.
Gallai’r rhai sy’n derbyn euogfarn o dan ddeddfwriaeth newydd y Llywodraeth wynebu dirwy neu garchar.