Gallai tywydd eithafol sy’n achosi tanau gwyllt ddigwydd bob blwyddyn mewn rhannau o Brydain wrth i’r hinsawdd newid, mae gwyddonwyr yn rhybuddio.

Nod astudiaeth dan arweiniad Prifysgol Reading oedd rhagweld sut y byddai’r perygl o danau gynyddu o ganlyniad i dymheredd uwch a llai o law yn yr haf ym Mhrydain yn y degawdau i ddod.

Canfu y gallai rhannau o ddwyrain a de Lloegr wynebu’r lefel bygythiad uchaf os yw’r byd yn parhau i gynhyrchu lefelau uchel o nwyon tŷ gwydr.

Byddai perygl eithriadol yn dod yn fwy cyffredin ledled y Deyrnas Unedig erbyn 2080, a gallai dyddiau â pherygl “uchel iawn” o danau gwyllt godi’n sylweddol, hyd yn oed mewn rhannau traddodiadol gwlypach o Brydain.

Mae’r cynnydd mewn perygl o dân yn deillio’n bennaf o dymheredd poethach, llai o law a gwyntoedd cryfach, yn ôl yr ymchwil.

Mae’r canfyddiadau’n amlygu pwysigrwydd cymryd bygythiad tanau gwyllt – sy’n gallu achosi risgiau amgylcheddol, iechyd ac economaidd – o ddifrif yn y Deyrnas Unedig, gan fod y broblem yn debygol o dyfu, rhybuddiodd yr ymchwilwyr.

Dywedodd yr Athro Nigel Arnell, gwyddonydd hinsawdd ym Mhrifysgol Reading a arweiniodd yr ymchwil: “Mae cyflyrau poeth a sych iawn sy’n berffaith ar gyfer tanau gwyllt mawr yn brin yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, ond bydd newid yn yr hinsawdd yn eu gwneud yn fwyfwy cyffredin.

“Yn y degawdau i ddod, gallai tanau gwyllt fod yn gymaint o fygythiad i’r Deyrnas Unedig ag y maent ar hyn o bryd yn ne Ffrainc neu rannau o Awstralia.

“Bydd y perygl cynyddol hwn o dân yn bygwth bywyd gwyllt a’r amgylchedd, yn ogystal â bywydau ac eiddo, ac eto mae’n cael ei fychanu ar hyn o bryd fel bygythiad mewn sawl rhan o’r Deyrnas Unedig. ”

Dangosodd yr astudiaeth hefyd fod lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i lefel a fyddai’n gostwng cynhesu byd-eang i tua 2C uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol yn “lleihau’n sylweddol iawn” y cynnydd mewn perygl o dân – er na fyddai’n ei ddileu.