Mae AoS Ceidwadol wedi denu ymateb chwyrn wedi iddi ddweud y bydd hiliaeth yn “marw mas yn naturiol”.

Daeth sylw Laura Anne Jones, yn ymateb i ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog, Jane Hutt, am ‘Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol’ Llywodraeth Cymru.

Yn siarad yn y cyfarfod llawn wnaeth yr AoS Torïaidd gydnabod bod “anghydraddoldeb eithafol a hiliaeth yn dal i fodoli yn ein cymdeithas” a bod “angen mawr” am y cynllun.

Ond daeth awgrym y byddai hiliaeth yn diflannu ar ei liwt ei hun, ac mae hynny wedi gwylltio sawl un ar gyfryngau cymdeithasol.

“Yn ffodus,” meddai’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd, “dw i’n credu taw [problem i genhedlaeth benodol] yw hiliaeth, ac y bydd yn marw mas yn naturiol.”

Ymhlith y rheiny sydd wedi ymateb i’w sylwad mae Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Arfon Jones.

“Dyw hynny ddim wedi digwydd hyd yma,” meddai. “Mae [hiliaeth] wedi gwaethygu ers 2016 gyda naws ymosodol gwleidyddiaeth,” atega.

Laura Anne Jones yw llefarydd y Ceidwadwyr, yn y Senedd, tros gydraddoldeb.

Croesawu’r cynllun

Mae’r ‘Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol’ yn amlinellu amcanion y Llywodraeth ar gyfer mynd i’r afael â hiliaeth yng Nghymru.

Yn siarad yng nghyfarfod llawn brynhawn ddoe, roedd Laura Anne Jones yn hynod groesawgar ohono.

“Mae Black Lives Matter a’r pandemig wedi amlygu anghydraddoldeb systematig, yn enwedig o fewn ein cymunedau BAME (du a lleiafrifoedd ethnig),” meddai.

“Ac mae wedi amlygu’r materion go iawn mae llawer yn ein cymdeithas a’n cymuned yn eu hwynebu yn ddyddiol yn 2021.

“Mae’n syndod bod anghydraddoldeb eithafol a hiliaeth yn dal i fodoli yn 2021. Dw i felly’n croesau’r cynllun yma. Mae’n amserol, ac mae angen mawr amdano.”