Mae ymgyrch merch 10 oed o Wynedd yn galw ar gylchgronau i gefnu ar deganau plastig wedi ennyn ymateb gan wleidyddion a chwmnïau.

Roedd Skye Neville o Fairbourne wedi cael llond bol ar weld teganau plastig yn dod gyda chylchgronau, a dechreuodd ddeiseb yn galw am eu gwahardd.

Erbyn hyn, mae’r ddeiseb wedi derbyn dros 4,200 o lofnodion.

Dechreuodd y ddeiseb gan ei bod yn poeni bod yr holl blastig sy’n cael ei greu a’i daflu yn llygru’r moroedd a’r amgylchedd.

“Dylai ‘anrhegion’ fod yn gynaliadwy a moesegol”

Mae Skye yn hoff o ddarllen cylchgronau, yn enwedig Horrible Histories, ond dywedodd nad ydi hi “eisiau nag angen y teganau plastig rhad”.

“Dylai unrhyw ‘anrhegion’ fod yn gynaliadwy a moesegol, fel ein bod ni’n gallu gwarchod y ddaear ar ein cyfer ni, ac ar gyfer chenedlaethau’r dyfodol,” meddai’r ddeiseb.

Ysgrifennodd Skye at gyhoeddwyr cylchgrawn Horrible Histories, Kennedy Publishing, a atebodd gan ddweud eu bod “yn gweithio’n galed iawn i wneud eu cylchgronau yn gyfeillgar i’r amgylchedd”.

Gan nad oedd hi’n fodlon gyda’r ateb, ac o ystyried bod cwmnïau eraill megis McDonald’s wedi stopio rhannu teganau plastig, penderfynodd ddechrau’r ddeiseb.

Cynnig Seneddol i “gydnabod” yr ymgyrch

Mae’r ddeiseb wedi ennyn sylw Liz Saville Roberts, aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, ac mae hithau wedi cyflwyno cynnig yn San Steffan yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i annog cyhoeddwyr i wneud eu cylchgronau yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Ar Trydar dywedodd Liz Saville Roberts ei bod yn falch o gyflwyno Cynnig Seneddol i gydnabod ymgyrch Skye Neville.

Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi canmol ei hymdrechion, ac mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Sophie Howe, wedi addo helpu’r ymdrech.

Llwyddo yn sgil ei “hangerdd tuag at faterion amgylcheddol”

Yn ogystal, mae cwmni Waitrose wedi cyhoeddi eu bod nhw am stopio gwerthu cylchgronau plant sy’n cynnwys teganau plastig, gan ddweud eu bod nhw’n am ymdrechu’n well “i leihau plastig sydd ond yn cael ei ddefnyddio unwaith”.

Wrth ymateb, dywedodd Liz Saville Roberts bod Skye wedi llwyddo i dynnu sylw at “yr effaith y mae plastig yn ei gael ar y blaned” drwy ei “hangerdd tuag at faterion amgylcheddol.”

“Mae ei lobïo llwyddiannus yn adlewyrchu cefnogaeth eang i’w hymgyrch,” yn ôl Liz Saville Roberts.