Fe ostyngodd cyfradd chwyddiant y Deyrnas Unedig yn annisgwyl fis diwethaf yn sgil cwymp ym mhrisiau dillad, ceir ail-law a theganau, yn ôl data swyddogol newydd.
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) fod y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi codi 0.4% yn y 12 mis hyd at fis Chwefror eleni.
Roedd i lawr o 0.7% ym mis Ionawr a 0.6% ym mis Rhagfyr.
Dywedodd Jonathan Athow, dirprwy ystadegydd cenedlaethol ystadegau economaidd y Swyddfa Ystadegau Gwladol: “Fe wnaeth gostyngiad ym mhrisiau dillad helpu i leddfu chwyddiant ym mis Chwefror, yn draddodiadol mis lle byddem yn gweld y prisiau hyn yn codi, ond mae effaith y pandemig wedi amharu ar batrymau tymhorol.
“Mewn mannau eraill roedd cwymp ym mhris ceir ail-law.
“Fodd bynnag, cododd prisiau’r pwmp y mis hwn, o’i gymharu â gostyngiad yr adeg hon y llynedd.”
Roedd cost dillad ac esgidiau yn dilyn patrwm anarferol yn ystod 2020.
Mae prisiau fel arfer yn codi rhwng mis Ionawr a mis Mai, cyn gostwng tan fis Gorffennaf, ond y llynedd disgynnodd prisiau ym mis Mawrth a mis Ebrill, fel ymateb i’r cyfyngiadau symud cyntaf mae’n debyg.
Yna, arhosodd yn sefydlog tan fis Awst, cyn cynyddu fel arfer tan fis Hydref.
Ond, wrth i rannau helaeth o’r wlad ail-ddechrau’r cyfyngiadau symud ym mis Tachwedd, gostyngodd prisiau eto, yn anarferol ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn.
Gyda gostyngiad mawr mewn prisiau ym mis Ionawr, gostyngodd cost dillad ac esgidiau 5.6% yn y flwyddyn hyd at fis Chwefror 2021 – y gostyngiad mwyaf ers mis Tachwedd 2009.
Dywedodd Ed Monk, cyfarwyddwr cyswllt yn Fidelity International: “Mae niferoedd heddiw wedi sefydlu ychydig fisoedd a allai fod yn hollbwysig,” meddai Ed Monk.
“Yn ogystal â lleddfu’r cyfyngiadau symud, bydd gostyngiad ym mhris ynni’r cartref yn disgyn allan o gymariaethau o flwyddyn i flwyddyn ac yn dechrau ychwanegu pwysau cynyddol at niferoedd chwyddiant.”
Mae Banc Lloegr yn disgwyl y bydd chwyddiant yn cyrraedd tua 2% erbyn diwedd eleni.