Fe fydd tir cyhoeddus segur yn cael ei ddefnyddio i godi tai fforddiadwy a thai cymdeithasol ar wahanol safleoedd ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod cronfa gwerth £5m wedi’i chynllunio i gyflymu’r broses, gyda 17 o brosiectau’n cael eu cefnogi eleni.

Yn eu pith mae:

  • Datblygu tir ar gyfer 18 o gartrefi fforddiadwy a thai cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin.
  • Prynu eiddo gwag yng Ngheredigion i’w troi’n gartrefi cymdeithasol.
  • Chwalu cyn safle diwydiannol yn Abertawe er mwyn adeiladu 15 o dai fforddiadwy a thai cymdeithasol.
  • Paratoi tir ar gyfer 26 o dai fforddiadwy ar Ynys Môn.
  • Darparu llety cymunedol ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu ym Mlaenau Gwent.

“Blaenoriaeth”

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid: “Mae darparu rhagor o dai cymdeithasol yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

“Mae’r Gronfa Rhyddhau Tir wedi caniatáu i ni gyflymu ein hymateb i’r angen am dai yma yng Nghymru, a hynny drwy roi’r cyllid angenrheidiol i ryddhau tir cyhoeddus nad yw wedi’i ddatblygu er mwyn adeiladu rhagor o dai fforddiadwy a thai cymdeithasol.

“Mae’r gronfa hefyd yn ein helpu i roi hwb y mae mawr ei angen i’r economi, yn enwedig y diwydiant adeiladu a’r cadwyni cyflenwi cysylltiedig.”