Mae gwefan newydd wedi cael ei lansio sy’n rhoi gwybodaeth am bob papur bro Cymraeg ac a fydd yn gweithredu fel man canolog ar eu cyfer.

Mae’r wefan, www.papuraubro.cymru, yn cynnig gwybodaeth gyswllt a mwy ar gyfer pob un o’r 58 o Bapurau Bro Cymraeg ar draws Cymru a Lloegr. Mae map interactif hefyd ar y wefan  i ddarganfod pa bapur bro sydd ym mha ardal.

Yn ôl Mentrau Iaith Cymru, sy’n gweinyddu grantiau Llywodraeth Cymru i’r papurau bro, y bwriad yw gosod seilwaith cenedlaethol i’r papurau allu datblygu ar y we.

“Ry’n ni’n falch iawn o fod wedi gallu cefnogi’r Papurau Bro drwy weithio ar y prosiect hwn,” meddai Heledd ap Gwynfor o Mentrau Iaith Cymru. ”Gobeithiwn bydd y wefan hwn yn helpu i greu seilwaith i’r Papurau Bro allu symud ymlaen gyda’i gilydd a datblygu mewn cyfnod lle mae presenoldeb ddigidol mor bwysig.”

Wrth groesawu’r datblygiad, meddai Dylan Lewis, cadeirydd Papur Bro Clonc (ardal Llanbedr Pont Steffan): “Ry’n ni wedi bod angen un o rhain ers blynyddoedd. Mae’r Papurau Bro yn gwneud gwaith anhygoel ym mhob ardal drwy Gymru, ond mae hefyd yn braf iawn cael y teimlad ein bod yn rhan o rywbeth mwy.” 

Dywed Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: “Mae Papurau Bro yn chwarae rhan bwysig mewn cymunedau ledled Cymru, ac mae technoleg hefyd yn elfen hollbwysig wrth inni anelu at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae angen bachu ar gyfleoedd a thaclo heriau technolegol, felly rwy wrth fy modd i weld y wefan newydd yn datblygu, fydd yn hwb i’r Gymraeg yn lleol ac yn genedlaethol.” 

Ochr yn ochr â’r datblygiad yma, mae perthynas adeiladol wedi ei greu rhwng Mentrau Iaith Cymru â Bro360 – prosiect creu gwefannau bro sy’n rhan o gwmni Golwg, a phrosiect sydd hefyd wedi helpu’r papurau bro i gyhoeddi rhifynnau digidol yn ystod y pandemig. Mae Bro360 wrthi’n cynnal hyfforddiant gohebu i’r papurau bro.

Dywed Lowri Jones, Bro360: “Edrychwn ymlaen at helpu’r papurau i ddatblygu ymhellach trwy gynnig arbenigedd cwmni Golwg ym maes newyddiaduraeth annibynnol i gynnal tair sesiwn hyfforddiant i gyfranogwyr y papurau bro dros yr wythnosau nesa.”