Mae Chris Coleman, cyn-reolwr Cymru, wedi dweud wrth golwg360 fod dysgu Cymraeg yn “rhywbeth y dylwn i wedi gwneud pan oeddwn i’n lot ifancach”

Ef yw’r seleb ddiweddaraf i benderfynu dysgu siarad Cymraeg yn y gyfres Iaith ar Daith, fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C nos Sul (Mawrth 28) am wyth o’r gloch.

A’r dyn sydd yn ei dywys o gwmpas Cymru ac yn ceisio dysgu’r iaith iddo ydi cyn-chwaraewr canol cae Cymru, Owain Tudur Jones – dyn yr oedd Chris Coleman yn arfer bod yn rheolwr arno.

Wrth drafod ei brofiadau a beth oedd wedi ei ysgogi i ddysgu Cymraeg, dywedodd Chris Coleman wrth golwg360: “Mae’n rhywbeth y dylwn i wedi gwneud pan oeddwn i’n lot ifancach ond nes i ddim gwneud tan rŵan.

“Rydw i’n teimlo fod o’n ddyletswydd arna i allu cyfathrebu gyda phawb ac estyn allan at bawb.

“Cymru ydi fan hyn ar ddiwedd y dydd a Chymraeg ydi’r iaith.

“Mae o’n rhywbeth sydd wedi bod gyda mi ers amser hir a dweud y gwir ac ers i mi fentro a dechrau arni mae o wedi bod yn rhywbeth sydd wedi fy adnewyddu mewn ffordd.

“Dw i wedi dechrau cymryd camau bach i ddysgu’r iaith ac yn amlwg mae mynd ar y sioe yn gam ychydig yn fwy a dw i’n mwynhau rŵan, er ei fod o’n iaith anodd iawn i’w ddysgu.

“Rydw i’n cael lot allan ohono, er mod i’n dal i gael lot o bethau’n anghywir… ond rwyt ti’n gorfod dyfalbarhau.”

“Byddai’n gweithio arno bob dydd er mwyn dod yn well ac yn well”

Ond faint o Gymraeg oedd gan Chris Coleman cyn dechrau dysgu’r iaith?

“Fe wnaethon ni ddysgu ychydig o Gymraeg yn yr ysgol, ond doeddwn i ddim ond yn gallu cofio rhyw dri neu bedwar gair,” eglurodd.

“Mae pawb yn gwybod sut i ddweud ‘diolch yn fawr’ a ‘bore da’ ond oni bai am hynny doeddwn i ddim wir yn gwybod dim byd cyn dechrau dysgu’r iaith.

“Fe wnaeth rhai geiriau sticio’n gyflym iawn a dw i’n gwybod lot o eiriau ar ben eu hunain, ond mae rhoi nhw at ei gilydd a ffurfio brawddeg yn fater arall, mae’n dipyn mwy o sialens!

“Dyna dw i’n ceisio gwella arno… dyna ydi fy uchelgais a byddai’n gweithio arno bob dydd er mwyn dod yn well ac yn well.”

Gorfod gofyn i Owain Tudur Jones “slofi lawr”

Sut athro oedd Owain Tudur Jones felly?

“Roedd Owain yn athro gwych, yn amlwg rydan ni’n adnabod ein gilydd oherwydd ein bod ni o’r un diwydiant,” meddai Chris Coleman.

“Weithiau roedd yn rhaid i mi ofyn iddo slofi lawr, ond na, roedd o’n dda iawn gyda mi, ac i fod yn onest roedd y criw oedd yn mynd a ni o gwmpas Cymru ar gyfer Iaith ar Daith wir yn anhygoel.

“Fe wnaethon nhw ddal fy llaw drwy gydol y broses ac edrych ar fy ôl a dw i’n ddiolchgar i Owain am gytuno i ddod ar y rhaglen a fy helpu.”

“Gwneud cynnydd da”

Datgelodd Chris Coleman i golwg360 ei fod wedi bod yn gweithio gyda thiwtor o’r enw Aaron yn ogystal â threulio amser gydag ef yng Nghaernarfon ers ffilmio’r rhaglen.

“Dw i’n gwneud cynnydd da,” meddai.

“Mae Aaron wedi bod yn anhygoel, a dw i wedi treulio amser gydag ef yng Nghaernarfon ac ar un achlysur buom yn siarad Cymraeg am awr gyfan,” meddai.

“Mae o’n ymwneud â hyder a pheidio bod ofn cael pethau’n anghywir a pheidio’i gymryd i galon pan mae rhywun yn eich cywiro.

“Byddai’n sicr yn treulio mwy o amser gyda Aaron yng Nghaernarfon a dw i’n bwriadu ei ffonio nes ymlaen.

“Roeddwn i wedi bwriadu ei ffonio ddydd Sadwrn, ond ar ôl i ni golli’r gêm rygbi (yn erbyn Ffrainc) doedd yr un ohonom awydd sgwrsio.

“Ond bydda’n cael sgwrs gydaf ef nes ymlaen.”

Rhagweld “brwydr gyda’r Weriniaeth Tsiec” am ail safle grŵp cymhwyso Cwpan y Byd

Bydd Cymru’n herio Gwlad Belg nos Fercher (Mawrth 24) yng ngêm agoriadol ymgyrch cymhwyso Cwpan y Byd, cyn chwarae yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ar Fawrth 30.

Ac mae Chris Coleman yn rhagweld “brwydr gyda’r Weriniaeth Tsiec” am ail safle grŵp, fyddai’n sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle.

“Mae’n rhaid i chi ddweud mai Gwlad Belg yw’r ffefrynnau i ennill y grŵp,” meddai.

“Dw i’n meddwl y byddwn ni’n brwydro gyda’r Weriniaeth Tsiec am yr ail safle yn y grŵp.

“Mae hynny yn mynd i fod yn sialens, ond pan ti’n edrych ar y sefyllfa ehangach rydan ni newydd gymhwyso ar gyfer yr Ewros am yr ail waith mewn chwe blynedd.

“Mae yno grŵp o chwaraewyr fan yna lle mae’r rhan fwyaf ohonynt yn chwarae pêl-droed ar y lefel uchaf ac maen nhw’n bêl-droedwyr galluog dros ben.

“Felly mae’n rhaid i ni feddwl bod hwn yn grŵp y gallwn ni gymhwyso ohono.”

Ond mae Chris Coleman yn dweud fod yn rhaid i Gymru “gymryd rhywbeth” yn erbyn Gwlad Belg a’r Weriniaeth Tsiec yn ei dwy gêm agoriadol.

“Mae’n rhaid i ni gymryd rhywbeth o’r ddwy gêm agoriadol yna er mwyn rhoi cyfle i ni’n hunain fod yn ei chanol hi hanner ffordd drwy’r ymgyrch,” meddai.

Byddai cael y Wal Goch yn ôl yn “hwb mawr i hogiau Cymru”

Mae Chris Coleman yn gobeithio’n fawr y bydd y Wal Goch yn cael dychwelyd i Stadiwm Dinas Caerdydd er mwyn “rhoi hwb i hogiau Cymru”.

“Dw i’n gobeithio am un peth erbyn y gemau cartref, yn enwedig yn erbyn Gwlad Belg, y bydd cefnogwyr Cymru yn cael dychwelyd.

“Oherwydd pan mae Stadiwm Dinas Caerdydd yn llawn fydd dim un o chwaraewyr Gwlad Belg yn edrych ymlaen at fynd yno… maen nhw’n gwybod be gawson nhw’r tro diwethaf.

“Mae’r stadiwm yna’n anhygoel pan mae hi’n llawn.

“Yn yr ymgyrch ddiwethaf (Cynghrair y Cenhedloedd), roedden ni’n chwarae yn erbyn y Ffindir neu Azerbaijan, dim amharch iddyn nhw oherwydd maen nhw’n dimau da.

“Ond pan ti’n mynd i fyny lefel a ti’n chwarae yn erbyn tîm fel Gwlad Belg gartref mewn stadiwm llawn dop ac mae’r dorf yn angerddol, ac maen nhw’n drof angerddol, dyna sy’n dy wthio di dros y llinell derfyn.

“Ar ôl rhyw awr, 70 munud, pan rwyt ti wedi blino’n gorfforol a meddyliol ac y mwyaf sydyn mae awyrgylch y stadiwm yn codi ac rwyt ti’n ffeindio’r pump y cant ychwanegol yna.

“Mae’r cefnogwyr yn chwarae rhan enfawr yn y gemau mawr hynny.

“Felly dw i’n gobeithio ac yn gweddïo y bydd y dorf yn cael dychwelyd ar gyfer rhai o’r gemau mawr gartref… byddai’n hwb mawr i hogiau Cymru.”

Chris Coleman “ddim yn gwybod” a fydd llwyddiant 2016 yn cael ei ailadrodd

Pan ofynnwyd i Chris Coleman a yw’n rhagweld llwyddiant Cymru wrth gyrraedd rownd cynderfynol yn nhwrnament Ewro 2016 yn cael ei ailadrodd, dywedodd nad oedd o’n gwybod.

“Dw i ddim yn gwybod, oherwydd doedd neb yn meddwl y byddan ni’n mynd mor bell bryd hynny,” meddai.

“Ond pam lai? Dwyt ti byth yn gwybod beth all ddigwydd, mae pêl-droed yn gêm wallgof.

“Gall unrhyw un guro unrhyw un ar ei diwrnod.

“Nac ydi, dydi hynny ddim yn digwydd yn aml, ond mae o dal yn gallu digwydd.

“Felly fyddwn i byth yn dweud na ddigwyddith hynny eto, dw i jyst ddim yn gwybod.”

Uchelgais o “weithio dramor eto”

Wrth drafod ei obeithion ei hun o ddychwelyd i fod yn rheolwr, dywedodd Chris Coleman wrth golwg360 ei fod yn gobeithio cael y cyfle i weithio dramor eto.

Mae ef wedi treulio amser fel rheolwr yn Sbaen gyda Real Sociedad, Larissa yng Ngwlad Groeg yn ogystal ag yn Tsieina gyda Hebei China Fortune.

“Yn sicr, hoffwn ddychwelyd i fod yn rheolwr, ac i mi, hoffwn weithio dramor eto.

“Mae hi’n adeg od gyda’r pandemig a ffiniau’n cau ac ati felly efallai bod cwpl o gyfleoedd wedi mynd oherwydd hynny.

“Mae mwy o glybiau’n dioddef gyda phroblemau ariannol hefyd ac efallai’n fwy cyndyn o wneud newidiadau.

“Yn fy swydd i, rwyt ti’n gallu cael y sack ar ôl chwe mis, tri mis, ond mae yno lai o hynny ar hyn o bryd oherwydd mae clybiau wedi cael eu taro’n ariannol ac mae gwneud newidiadau yn ddrud.

“Ond dw i’n gobeithio nawr, pan fydd y cyfyngiadau symud yn dod i ben, neu’n cael eu llacio, y bydd yno fwy o gyfleoedd allan yna i mi.

“Dw i’n agored i fynd i unrhyw le, mae fy mhlant ifancaf yn bedair a chwech oed felly mae yno tua phedair blynedd nes mae’r ysgol yn dechrau dod yn fwy pwysig felly hoffwn fod wedi sortio rhywle parhaol cyn hynny.”

Iaith ar Daith
Nos Sul 28 Mawrth 8.00, S4C
Isdeitlau Saesneg
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C

Rheolwr Cymru, Chris Coleman, yn dathlu ar ôl i Gymru sichrau ei lle yn rowndiau cynderfynol Ewro 2016

Chris Coleman: Rhaid i Gymru ddangos “agwedd” i guro Gwlad Belg

Huw Bebb

Cyn reolwr Cymru yn trafod y gêm yn erbyn Gwlad Belg ar drothwy dechrau’r ymgyrch cymhwyso Cwpan y Byd