Mae Cymdeithas Cerdd Dant Cymru wedi cyhoeddi bod Gŵyl Cerdd Dant Bro Nansi 2021 wedi cael ei gohirio.

Daw hyn yn dilyn cyfarfod o Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Cerdd Dant Cymru yn ddiweddar ac mewn cydweithrediad â Phwyllgor Gwaith Gŵyl Cerdd Dant Bro Nansi Llanfyllin.

Roedd yr ŵyl i fod i gael ei chynnal yn Theatr y Llwyn, Llanfyllin, ar Dachwedd 13, 2021.

Yn ogystal, bydd penwythnos preswyl Cwrs Gosod a Chyfeilio Cerdd Dant oedd i’w gynnal rhwng y 10-12fed o Fedi, 2021 yng Ngwesty’r Metropole yn Llandrindod yn cael ei ohirio.

“Eto eleni, roedd Pwyllgor Gwaith y Gymdeithas Cerdd Dant yn gwbl unfrydol yn y penderfyniad i ohirio Gŵyl Cerdd Dant Bro Nansi ynghyd â gweithgareddau eraill y Gymdeithas. Er y siom, roedd y penderfyniad rhagofalus hwn yn anorfod,” meddai Llio Penri, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Cymdeithas Cerdd Dant Cymru.

“Roedd ymwybyddiaeth o’n cyfrifoldeb i barhau i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn y cyfnod blin hwn yn llywio pob penderfyniad.

“Fe ddaw’r cyfle inni gyd-fwynhau ein diwylliant. Fe ddaw’r dydd diogel pan fyddwn yn gallu ymuno â thîm gweithgar Bro Nansi mewn chwip o Ŵyl.

“Yn y cyfamser, boed inni wledda ar arlwyaeth y cyfryngau rhithiol. Ymlaen mewn ffydd”.

“Tristwch mawr”

Ychwanegodd John Eifion Jones, Trefnydd y Gwyliau Cerdd Dant: “Mae’n destun tristwch mawr gorfod gohirio’r Ŵyl unwaith eto, ond gydag ansicrwydd pryd y bydd digwyddiadau torfol dan do yn cael ailddechrau, heb sôn am pryd y bydd partïon a chorau yn cael ailddechrau ymarfer, doedd dim dewis arall.

“Er mwyn cynnal yr Ŵyl yn llwyddiannus rydym angen cyfnod o amser i baratoi ac i gynnal gweithgareddau i godi arian, ond ar hyn o bryd nid yw’r amgylchiadau presennol yn caniatáu i ni wneud hynny yn ddiogel.

“Felly, fe fydd rhaid disgwyl ychydig mwy cyn cael Gŵyl Cerdd Dant yn Sir Drefaldwyn, ond gallaf eich sicrhau fe fydd yn Ŵyl i’w chofio.”