Mae’r BBC wedi cyhoeddi cynlluniau i “adlewyrchu’ pob rhan o’r Deyrnas Unedig yn well gyda mwy o raglenni wedi’u gwneud y tu allan i Lundain.

Bydd yn symud i ffwrdd o Lundain dros y chwe blynedd nesaf yn yr hyn y mae’n ei ddisgrifio fel ei “drawsnewidiad mwyaf ers degawdau”.

Bydd rhaglenni newyddion a materion cyfoes fel Newsnight yn cael eu cyflwyno o wahanol ganolfannau yn y Deyrnas Unedig, a bydd sioe Today ar Radio 4 yn cael ei chyflwyno’n rhannol o’r tu allan i Lundain am o leiaf 100 pennod y flwyddyn.

Mae’r BBC yn gobeithio y bydd y penderfyniad yn newid naws ei rhaglenni a’i newyddiaduraeth.

Gallai’r penderfyniad hefyd arwain at gystadleuaeth gan y BBC i opera sebon ITV, Coronation Street. Dywedodd y darlledwr y byddai’n darlledu dwy gyfres ddrama newydd – un o Ogledd Lloegr a’r llall o Gymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Byddai gwylwyr yn gweld tua 30 pennod y flwyddyn, neu fwy, o’r opera sebon neu ddrama, gyda’r union fformat i’w benderfynu.

Dywedodd y BBC y byddai “rhannau helaeth o BBC News” yn “symud ar draws y Deyrnas Unedig … gan sicrhau ein bod yn ymdrin â’r straeon sydd bwysicaf i gynulleidfaoedd ac yn cynrychioli gwahanol leisiau a safbwyntiau yn fwy effeithiol”.

Dywedodd Rob Burley, a greodd Politics Live yn 2018, fod y newidiadau i BBC News yn golygu bod ei rôl fel golygydd rhaglenni gwleidyddol byw wedi “cau”.

“Mae’r newyddion heddiw yn drist yn bersonol: rwy’n caru’r BBC ac wedi ei amddiffyn yn angerddol, ond rwy’n edrych ymlaen yn awr at yr hyn sy’n dod nesaf, y tu mewn i’r BBC neu’r tu allan yn y byd ehangach,” ychwanegodd Mr Burley, a fu hefyd yn goruchwylio The Andrew Marr Show, Westminster Hour a Newswatch.

“Rhaid i ni weithredu nawr”

Dywedodd y BBC y bydd y cynlluniau, a fydd yn gweld mwy o’i weithrediadau’n symud i Birmingham, Caerdydd, Leeds a Salford, yn “cadarnhau ein hymrwymiad i adlewyrchu, cynrychioli, a gwasanaethu pob rhan o’r wlad yn well”.

Wrth gyhoeddi’r cynlluniau newydd, sy’n dod wrth i’r BBC ddechrau trafodaethau gyda’r Llywodraeth ynghylch cost ffi’r drwydded yn y dyfodol, dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tim Davie, fod yr “heriau i’r BBC yn rhai go iawn, a rhaid i ni weithredu nawr”.

Dywedodd wrth staff y BBC bod “rhaid i bobl deimlo ein bod yn nes atynt”.

Erbyn 2027/28, mae’r BBC yn dweud y bydd yn gwario o leiaf £700 miliwn ychwanegol ledled y Deyrnas Unedig.

Byddai tua 400 o rolau – tua hanner y nifer yn BBC News – yn cael eu hadleoli y tu allan i Lundain.

Croesawodd Julian Knight AS, cadeirydd y Pwyllgor Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y cam a dywedodd y byddai’n “rhoi mwy i dalwyr ffi’r drwydded am eu harian”.

Ond anogodd y BBC i beidio ag “ailadrodd rhai o’r camgymeriadau costus a wnaed gan y BBC yn ei symudiad blaenorol i Salford”, gan ddweud: “Mae’n rhaid i hyn gynrychioli gwerth am arian i dalwyr ffi’r drwydded.”