Mae’n rhaid i Gymru ddangos “agwedd” i guro Gwlad Belg.

Dyna farn cyn-reolwr ein tîm pêl-droed cenedlaethol, Chris Coleman, cyn i Gymru ddechrau eu hymgyrch cymhwyso Cwpan y Byd drwy herio Gwlad Belg oddi cartref nos yfory (Mercher, Mawrth 24).

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes wedi cyhoeddi na fydd Aaron Ramsey yn rhan o’r garfan, tra bod Ben Davies hefyd wedi gorfod tynnu allan oherwydd anaf.

Ond dydi hynny “ddim yn golygu na allwn ni fynd yno a chael canlyniad da”, yn ôl Chris Coleman.

“Mae’n rhaid i ni fynd i mewn i’r gêm gydag agwedd a’r gred ein bod ni’n gallu cael canlyniad fan hyn oherwydd pan ti’n chwarae yn erbyn y timau mawr ac yn mynd i mewn i’r sialens honno yn gobeithio am ganlyniad neu gydag agwedd negyddol rwyt ti’n mynd i gael dy guro,” meddai Chris Coleman wrth golwg360.

“Pan ti’n chwarae tîm fel Gwlad Belg, a thîmau fyddwn ni’n eu hwynebu yn yr Ewros megis yr Eidal a’r Swistir, timau cryf iawn, rwyt ti’n dod a dy berfformiad a dy ddisgwyliadau i fyny lefel.

“Mae’n rhaid i ni gael canlyniadau mawr iawn, a pherfformiadau anhygoel ac i wneud hynny mae’n rhaid i ti dorri nifer o rwystrau.

“Felly mae’n rhaid i ni gael yr agwedd nad ydi o ots pwy rydan ni’n chwarae yn eu herbyn, ni ydi Cymru, rydan ni’n dîm da, ac ar ein dydd gallwn gael canlyniad da yn erbyn unrhyw un.”

“Dyna ydi pêl-droed rhyngwladol”

Wrth drafod absenoldeb Aaron Ramsey a Ben Davies, ychwanegodd Chris Coleman: “Dyna ydi pêl-droed rhyngwladol, dwyt ti bron byth yn cael y ddwy garfan ddwywaith . . . nes i ddim mewn chwe blynedd gyda Chymru.

“Rwyt ti wastad yn gorfod gwneud newidiadau oherwydd mae chwaraewyr yn cael anafiadau neu’n cael eu gwahardd ac fel yna mae hi.

“Dw i’n cofio gêm yn erbyn Gwlad Belg ar ddiwedd un ymgyrch, fe wnaeth 15 o chwaraewyr dynnu allan o’r garfan ac roedd yn rhaid i ni geisio dewis tîm i’w gwynebu nhw.

“Yn ffodus, llwyddon ni i gael gêm gyfartal 1-1 ac roedd o’n ganlyniad gwych ac roedd Aaron Ramsey yn anhygoel ar y noson honno.

“Ond fel dw i’n dweud dyna ydi pêl-droed rhyngwladol, mae’n rhaid i ti dderbyn y pethau yma a symud ymlaen.

“Byddai Aaron Ramsey a Ben Davies yn cael i mewn i ran fwyaf o dimau, maen nhw’n chwaraewyr penigamp a bydd Cymru’n eu colli nhw ond mae’n rhaid i’r garfan geisio ymdopi hebddyn nhw.

“Dydi’r ffaith eu bod nhw allan ddim yn golygu na allwn ni fynd yno a chael canlyniad da, a dyna sut y mae’n rhaid i ni edrych arno.”

Ben Davies

Ergyd ddwbl i Gymru cyn herio Gwlad Belg

Ben Davies allan o garfan Cymru tra bod Romelu Lukaku wedi ymuno â charfan Gwlad Belg