Mae yno ergyd ddwbl i Gymru ar drothwy ymgyrch cymhwyso Cwpan y Byd, gyda Ben Davies a Tom Lockyer yn tynnu allan o’r garfan.
Ond mae Romelu Lukaku wedi ymuno â charfan Gwlad Belg ar ôl profi’n negyddol am Covid-19.
Cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru na fydd Aaron Ramsey yn rhan o’r garfan ar ôl iddo ddioddef anaf tra’n chwarae gyda’i glwb Juventus.
Bydd Cymru’n herio Gwlad Belg nos Fercher (Mawrth 24), gyda’r gic gyntaf am 7:45yh, cyn chwarae yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ar Fawrth 30.
Ar ben hynny, bydd gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico yn cael ei chynnal ar Fawrth 27, lle mae disgwyl i Robert Page orffwys nifer o chwaraewyr.
Nid yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi datgelu natur anafiadau Ben Davies a Tom Lockyer na chwaith am ba mor hir y mae disgwyl iddyn nhw fod allan.
Bydd amddiffynwr Tottenham Hotspur, Ben Davies, yn golled aruthrol i Gymru ac yntau’n chwaraewr allweddol sydd wedi ennill 58 cap.
Mae Tom Lockyer, sy’n chwarae i Luton Town yn y Bencampwriaeth, hefyd wedi chwarae’n rheolaidd i Gymru yn ystod y tymhorau diwethaf.
Ond nid yw ei absenoldeb yn gymaint o sioc gan nad yw wedi chwarae i’w glwb ers anafu ei ffêr yn erbyn Caerdydd ym mis Chwefror.
Diweddariad Carfan ???????
Ben Davies and Tom Lockyer have both withdrawn from the squad due to injury.
Brysiwch wella bois!#TogetherStronger pic.twitter.com/AbNQXgT1Wo
— Wales ??????? (@Cymru) March 23, 2021
Bydd yr ymosodwr Romelu Lukaku yn ymuno â charfan Gwlad Belg ar ôl profi’n negyddol am Covid-19 yn dilyn achosion yn ei glwb Inter Milan.
Profodd Stefan de Vrij a Matias Vecino yn bositif ym mhrofion Inter Milan, ac felly roedd awdurdod lleol Milan wedi gosod cyfyngiadau oedd yn cynnwys atal chwaraewyr rhag gadael yr Eidal.
Ond mae prawf negyddol Romelu Lukaku’n golygu y gallai fod yn y tîm fydd yn herio Cymru.
Fodd bynnag, ni fydd Eden Hazard, asgellwr Real Madrid, na’r chwaraewr canol cael Borussia Dortmund, Alex Witsel, ar gael oherwydd anaf.