Gallai Gwlad Belg fod heb Romelu Lukaku ar gyfer eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd 2022 yn erbyn Cymru yn dilyn achosion o’r coronafeirws yn ei glwb, Inter Milan.

Profodd Stefan de Vrij a Matias Vecino yn bositif ym mhrofion Inter ddydd Mercher, ac felly mae awdurdod lleol Milan wedi gosod cyfyngiadau sy’n cynnwys atal chwaraewyr rhag gadael yr Eidal.

Dywedodd Inter fod holl weithgareddau’r tîm wedi’u hatal o ddydd Iau ymlaen, am bedwar diwrnod.

Mae gêm Inter gyda Sassuolo ddydd Sadwrn wedi’i gohirio ac mae chwaraewyr wedi’u gwahardd rhag ymgynnull gyda’u timau cenedlaethol.

Bydd carfan gyfan Inter yn cael ei hail-brofi ddydd Llun.

Lukaku sydd â’r nifer fwyaf o goliau yn hanes y tîm cenedlaethol ac mae wedi rhwydo 30 o weithiau i’w glwb a’i wlad y tymor hwn.

Ond fe allai nawr fethu’r gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Chymru yn Leuven ddydd Mercher nesaf, yn ogystal â gêm ganlynol Gwlad Belg yn erbyn y Weriniaeth Tsiec dri diwrnod yn ddiweddarach.

Amheuaeth am James Lawrence ac Aaron Ramsey

Mae Cymru’n aros i ddarganfod a all yr amddiffynnwr James Lawrence, sy’n chwarae i St Pauli yn ail adran Bundesliga, gwrdd â’r garfan.

O dan reoliadau cwarantin presennol yr Almaen, byddai’n rhaid i Lawrence hunanynysu am 14 diwrnod wrth deithio’n ôl o’r Deyrnas Unedig i’r Almaen ar ôl yr egwyl ryngwladol.

Nid yw Cymru wedi cadarnhau eto a fydd Aaron Ramsey yn ymuno â’r garfan ar ôl methu buddugoliaeth Juventus dros Cagliari yn Serie A y penwythnos diwethaf gydag anaf gydag anaf i’w glun.

Aaron Ramsey

Cymru’n bwriadu cynnal trafodaethau â Juventus ynglyn ag Aaron Ramsey

Dim ond tair o 20 gêm olaf Cymru y mae Ramsey wedi’u dechrau
Ryan Giggs

Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer dechrau ymgyrch Cwpan y Byd

Ryan Giggs wedi bod yn rhan o’r broses o ddethol y garfan, sy’n cynnwys Aaron Ramsey a Joe Allen, ar gyfer dwy gêm gymhwyso ac un gêm gyfeillgar