Gemma Grainger yw Rheolwr newydd Tîm Cenedlaethol Merched Cymru, ac mae wedi arwyddo cytundeb i fod wrth y llyw am bedair blynedd.

Gadawodd Jayne Ludlow y swydd ar Ionawr 18.

Fe weithiodd Grainger i Gymdeithas Bêl-droed Lloegr am 11 mlynedd fel rheolwr i’r timau merched Dan 15 a Dan 23 oed.

Mae Grainger wedi rheoli dros 90 o gemau rhyngwladol ar y lefel yna ac roedd hi’n rhan o’r tîm hyfforddi pan gyrhaeddodd Lloegr y rownd gynderfynol ym Mhencampwriaeth Ewro Merched UEFA yn 2017.

Bydd Grainger yn rheoli tîm Cymru am y tro cyntaf yn erbyn Canada (Ebrill 9) a Denmarc (Ebrill 13) fis nesaf.

“Paratoi trwy gydol fy ngyrfa i reoli tîm cenedlaethol”

Wrth drafod ei phenodiad, dywedodd Gemma Grainger: “Rwy’n hynod falch o gael fy newis yn Rheolwr Tîm Cenedlaethol Merched Cymru a’r sialens sydd o’m blaen.

“Rwyf wedi paratoi trwy gydol fy ngyrfa i lywio tîm cenedlaethol i brif bencampwriaeth ryngwladol.

“Mae’n amser hynod gyffrous i bawb ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r staff a’r chwaraewyr, gyda’r nod o gyrraedd y lefel nesaf.

“Mae’n gyfle i mi a’r chwaraewyr i ysgrifennu pennod newydd ac i adeiladu ar stori pêl-droed merched yng Nghymru.”

“Uchelgais am dwf a llwyddiant ym mhêl-droed merched Cymru”

Yn sôn am y penodiad, dywedodd Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Kieran O’Connor: “Rwy’n gyffrous iawn i groesawu Gemma fel Rheolwr ein Tîm Merched Cenedlaethol.

“Ar ôl proses benodi fanwl i gael y rheolwr cywir, rydym ni nawr yn edrych ymlaen at y dyfodol, gyda’r uchelgais am dwf a llwyddiant ym mhêl-droed merched Cymru.”

“Edrych ymlaen”

Mae Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Merched Cymdeithas Bêl-droed Cymru, hefyd wedi croesawu’r penodiad.

“Rydym ni wedi tyfu’r gêm merched yng Nghymru dros y blynyddoedd ac fe fydd Gemma yn parhau’r broses hynny,” meddai.

“Mae’n dda gweld ymrwymiad y Gymdeithas i gêm y merched a rhoi’r cyfle gorau i gyrraedd prif bencampwriaeth am y tro cyntaf.

“Fe fydd hynny yn rhan fawr o’n nod i dyfu’r gêm yng Nghymru.

“Rwy’n edrych ymlaen.”