Ar drothwy’r gêm fawr ym Mharis nos Sadwrn, mae cyn-gapten Cymru yn dweud bod angen i dîm Wayne Pivac chwarae eu gêm orau o’r Bencampwriaeth, os ydyn nhw am sicrhau Camp Lawn.

Aeth hanner canrif heibio ers y tro olaf i Gymru sicrhau Camp Lawn yn Ffrainc, nôl yn 1971.

Yng nghyfnod y Chwe Gwlad, hyd yma, mae Cymru wastad wedi sicrhau’r Gamp Lawn gartref yng Nghaerdydd.

Ac maen nhw yn wynebu Ffrainc ar eu tomen eu hunain nos Sadwrn, gyda Gwyn Jones yn rhagweld y bydd angen perfformiad a hanner i gipio’r fuddugoliaeth.

“Er mwyn ennill nos Sadwrn fe fydd yn rhaid i Gymru chwarae eu gêm orau eto, rhywbeth go debyg i’r ugain munud olaf yn erbyn Lloegr, [ond] am gêm gyfan,” meddai sylwebydd Y Clwb Rygbi Rhyngwladol.

“Mae tîm Ffrainc wedi dal dychymig y byd rygbi gyda’u perfformiad gwefreddiol yn Nhwickenham y penwythnos diwethaf.

“Er iddyn nhw golli, fe gafodd y gwylwyr eu cyfareddu gan arddull hyderus a gwefreiddiol eu chwarae.”

 

Ffrainc yw’r ffefrynnau

 

Mae Gwyn Jones yn rhagweld ceisiau ym Mahris nos Sadwrn.

“Rydw i’n disgwyl i Ffrainc sgorio cwpwl o geisiau, ond rwy’n disgwyl i Gymru sgorio rhai hefyd.

“Yn sicr, mae gan Gymru’r gallu i faeddu Ffrainc. Bydd gofyn iddyn nhw fod ar eu gorau, ac mae yn bosib y byddan nhw angen tipyn bach o lwc, ond ni fyddai yn syndod pe baen nhw yn ennill ym Mharis a hawlio Camp Lawn.

“Ond unwaith eto, ac am y pedwerydd tro yn yr ymgyrch hon, gwrthwynebwyr Cymru yw’r ffefrynnau yn fy marn i.

“Ond cofiwch chi, rydw i eioses wedi bod yn anghywir dair gwaith yn Chwe Gwlad yn barod…”

Ffrainc v Cymru yn fyw ar S4C, y gic gyntaf am wyth nos Sadwrn