Mae Steve Cooper, rheolwr Abertawe, eisiau i’w dîm fachu’r cyfle i greu hanes yn erbyn Caerdydd ddydd Sadwrn (Mawrth 20).

Bydd yr Elyrch yn herio’r Adar Gleision yn Stadiwm Liberty, gyda’r gic gyntaf am 5:30 y pnawn, gan wybod y byddai buddugoliaeth gartref yn golygu mai nhw fyddai’r tîm cyntaf yn hanes 109 mlynedd darbi de Cymru i gyflawni’r dwbl yn y gynghrair.

Bu’r ddau glwb yn yr un adran am 32 o’r tymhorau yn y cyfnod hwnnw, ond nid oes yr un tîm erioed wedi llwyddo i ennill gartref ac oddi-cartref yn yr un ymgyrch.

Fe gollodd Abertawe o 3-0 yn erbyn Bournemouth nos Fercher (Mawrth 17), gan golli tir yn y ras i’r safleoedd dyrchafiad awtomatig.

Ond byddai buddugoliaeth i’r Elyrch ddydd Sadwrn yn eu rhoi nhw’n hafal ar bwyntiau gyda Watford, sydd yn yr ail safle.

“Rydyn ni’n gwybod yn iawn pa mor bwysig yw’r gêm”

“Mae’n gyfle, mae’n rhywbeth i’n gwthio ni ac mae’n gyfle y mae’n rhaid i ni geisio ei gymryd,” meddai Steve Cooper.

“Rydyn ni’n gwybod fod hon yn gêm bwysig, fel y mae’r gemau darbi hyn bob amser, ac mae’n rhaid i ni ei ddefnyddio fel cymhelliant i fynd ac ennill.

“Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen er mwyn ennill, ond y prif sbardun yw pwysigrwydd ceisio cael y canlyniad cywir.

“Rydyn ni eisiau ennill y gêm a dyna’r cyfan rydyn ni’n canolbwyntio arno.

“Rydyn ni’n gwybod yn iawn pa mor bwysig yw’r gêm, rydyn ni wedi bod fel grŵp ers i mi fod yma, a bydd hynny’n parhau i fod yn wir.

“Ond rydyn ni’n gwybod nad yw’n ymwneud â’r clwb pêl-droed yn unig, ond â’r ddinas a’r gymuned hefyd.

“Rydym yn eu cynrychioli gyda balchder ac uchelgais, ac rydym am wneud hynny eto ddydd Sadwrn.”

Caerdydd yn gobeithio am fuddugoliaeth gyntaf ers 2011 yn Stadiwm y Liberty

Mae Caerdydd yn teithio i gartre’r cymdogion yn gobeithio am fuddugoliaeth gyntaf yn Stadiwm y Liberty ers degawd.

Gôl hwyr gan Craig Bellamy wnaeth sicrhau buddugoliaeth gofiadwy i dîm Dave Jones yn 2011.

A bydd tîm Mick McCarthy’n benderfynol o ail gydio mewn ychydig o fomentwm yn y gynghrair ar ôl i rediad ddiguro’r clwb ddod i ben wrth iddynt golli 2-1 yn erbyn Watford ddydd Sadwrn (Mawrth 13).

Nid oedd y clwb wedi colli ers 11 gêm cyn hynny.

A buodd yn rhaid i’r Adar Gleision setlo am bwynt yn erbyn Stoke City mewn gêm gyfartal 0-0 nos Fercher (Mawrth 17) a oedd gwneud fawr ddim i helpu’r naill ochr na’r llall gyda’u gobeithion o gyrraedd y gemau ail-gyfle.

Gallai Caerdydd godi i’r wythfed safle gyda buddugoliaeth yn erbyn Abertawe.

Ben Cabango

Capten a rheolwr Abertawe’n canu clodydd Ben Cabango cyn y gêm ddarbi fawr

Alun Rhys Chivers

Mae’r Cymro Cymraeg wedi cael cytundeb newydd ar drothwy’r gêm yn erbyn Caerdydd

Yr Elyrch a’r Adar Gleision yn sefyll ynghyd yn erbyn hiliaeth cyn y gêm ddarbi

Bydd y gêm yn mabwysiadu’r slogan ‘Gwrthwynebwyr ar y cae – unedig yn erbyn hiliaeth’