Bydd Abertawe a Chaerdydd yn uno i anfon neges gwrth-hiliol gref cyn derbi de Cymru ddydd Sadwrn.

Mae’r ymgyrch – sydd wedi’i chefnogi gan Kick It Out – yn disgyn ar yr un diwrnod â Diwrnod Gwrth-Hiliaeth y Cenhedloedd Unedig.

Mae hiliaeth wedi effeithio ar Abertawe ddwywaith y tymor hwn, gyda Yan Dhanda – sydd o dras Indiaidd – yn destun camdriniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn gêm gwpan fis diwethaf yn erbyn Manchester City.

Fe wnaeth Abertawe hefyd lansio ymchwiliad ar ôl i bŵio gael ei glywed y tu allan i Stadiwm Liberty tra bod chwaraewyr yn cymryd y ben-glin i gefnogi mudiad Black Lives Matter cyn gêm mis Rhagfyr yn erbyn Reading.

Logo AbertaweCaerdydd

‘Gwrthwynebwyr ar y cae – unedig yn erbyn hiliaeth’

Dywedodd prif weithredwr Abertawe, Julian Winter: “Mae hiliaeth a gwahaniaethu yn fater nad yw’n diflannu yn anffodus, ac rydym yn teimlo ei bod yn bwysig fel clwb pêl-droed ein bod yn parhau i frwydro yn erbyn y rhagfarnau hyn sy’n rhoi staen ar gymdeithas a’r gêm yr ydym i gyd yn ei charu.

“Rwyf wrth fy modd bod y ddau glwb wedi dod at ei gilydd i uno o amgylch mater mor bwysig, a hoffwn ddiolch i’r holl grwpiau cefnogwyr o Ddinas Abertawe a Dinas Caerdydd sydd wedi chwarae rhan mor allweddol yn yr ymgyrch hon.”

Bydd y ddwy set o chwaraewyr, yn ogystal â swyddogion, yn cynhesu mewn crysau-t Kick It Out, tra bydd y gêm yn mabwysiadu’r slogan ‘Gwrthwynebwyr ar y cae – unedig yn erbyn hiliaeth’.

‘Rydyn ni’n brwydro gyda ti’

Bydd Abertawe hefyd yn dangos eu cefnogaeth i amddiffynnwr Caerdydd, Sol Bamba, a gafodd ddiagnosis o lymffoma ym mis Ionawr.

Ar gefn crysau-t Kick It Out fydd y geiriau ‘Rydyn ni’n brwydro gyda ti’ ynghyd â rhif Bamba, sef 22.

Dywedodd prif weithredwr yr Adar Gleision, Ken Choo: “Mae Dinas Caerdydd a Dinas Abertawe yn sefyll gyda’i gilydd yn y frwydr yn erbyn hiliaeth a gwahaniaethu mewn cymdeithas.

“Hoffwn ddiolch i grwpiau cefnogwyr y ddau glwb am eu hymrwymiad i’r ymgyrch hon.

“Er y bydd ein cystadleuaeth ar y cae gyda Dinas Abertawe yn parhau y penwythnos hwn, mae ein hundeb â nhw yn y frwydr hon yn erbyn rhagfarn yn gadarn ac yn absoliwt.”