Bydd gêm Caernarfon oddi-cartref yn erbyn y Bala yn fyw ar S4C ddydd Sadwrn (Mawrth 20), gyda’r gic gyntaf am 2:30 y prynhawn.

Mae tîm Huw Griffiths wedi mynd chwe gêm heb golli yn y gynghrair, ond yn dal i fod yn hanner isa’r tabl ar wahaniaeth goliau.

Gallai buddugoliaeth yn erbyn y Bala godi’r tîm i’r Chwech Uchaf os yw Hwlffordd yn colli neu’n cael gêm gyfartal yn erbyn Cei Connah.

Ond dyw Caernarfon heb ennill yn eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn y Bala, gan golli pedair, a chael un gêm gyfartal.

Daeth rhediad y Bala o 14 gêm heb golli i ben nos Fawrth wrth i dîm Colin Caton gael eu trechu 3-1 gartref yn erbyn Cei Connah.