Mae hi’n ddiwrnod tygedfennol yn y byd rygbi wrth i Gymru geisio sicrhau’r Gamp Lawn draw ym Mharis.
Bydd y gêm yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C, gyda’r gic gyntaf am wyth o’r gloch heno (Mawrth 20).
Mae’r Cymry wedi ennill eu pedwar gêm yn y Bencampwriaeth hyd yma, ac ar frig y tabl wrth wynebu’r Ffrancod.
Mae Wayne Pivac wedi gwneud un newid i’r tîm drechodd Yr Eidal, gydag Adam Beard, a ddechreuodd y tair gêm gyntaf i Gymru, yn dod yn ôl i’r tîm yn lle Cory Hill.
Dyma fyddai ail Gamp Lawn Cymru mewn tri twrnament, yn dilyn 2020 siomedig gyda dim ond tair buddugoliaeth mewn 10 gêm.
Ffrainc yw’r unig dîm arall sy’n dal i allu ennill y gystadleuaeth, er y bydd angen buddugoliaethau arnyn nhw yn y ddwy gêm sy’n weddill i wneud hynny.
Jonathan Davies yn canu clodydd Alun Wyn Jones
Ar drothwy’r ornest, mae canolwr Cymru, Jonathan Davies, wedi bod yn canu clodydd ei gapten, Alun Wyn Jones, wrth iddo ennill ei 148fed cap yn erbyn Ffrainc.
Byddai buddugoliaeth yn golygu mai ef yw’r chwaraewr cyntaf yn hanes Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i ennill pedair Camp Lawn.
“Mae’n ysbrydoliaeth,” meddai Jonathan Davies.
“Hirhoedledd ei yrfa – pedair Camp Lawn, o bosibl, ymhell dros 100 o gapiau a chwarae yn yr ail reng – mae’n anhygoel.
“Mae wedi cyflawni cymaint fel chwaraewr.”
Cydnabod fod pethau wedi mynd o blaid Cymru
Ychwanegodd Jonathan Davies: “Does dim llawer rhwng y timau hyn yn y Chwe Gwlad – gall fod yn benderfyniad gan y dyfarnwr, y ffordd mae’r bêl yn bownsio, disgyblaeth wael gan y tîm arall, ac rydych chi ar y droed flaen.
“Oedd, roedd y ddau gerdyn coch (yn erbyn Iwerddon a’r Alban) yn sicr yn help, ac roedd y ddau benderfyniad gan y dyfarnwr (yn erbyn Lloegr) yn sicr wedi helpu.
“Ond mae Cymru wedi cadw eu disgyblaeth, cadw eu siâp a dal ati i wneud yr hyn maen nhw fod i’w wneud, ac maen nhw wedi dod ychydig yn fwy clinigol.
“Mae ennill yn hollbwysig ar lefel ryngwladol, ac maen nhw wedi ennill yn erbyn Iwerddon a’r Alban. Roedden nhw’n chwarae’n dda yn erbyn Lloegr.”
Rhagweld y bydd “Ffrainc yn chwarae’n ymosodol”
Mae Jonathan Davies yn rhagweld y bydd “Ffrainc yn chwarae’n ymosodol yn erbyn Cymru” er mwyn mynd ar ôl pwynt bonws i gadw eu gobeithion o ennill y Bencampwriaeth yn fyw.
Ac nid yw’n credu y bydd buddugoliaeth Lloegr dros Les Bleus yn Twickenham yr wythnos diwethaf yn rhoi tolc yn eu huchelgais.
“Roedd y meddylfryd oedd gan Loegr a Ffrainc yn Twickenham yn wych – roedden nhw eisiau chwarae – a dw i’n meddwl y bydd Ffrainc yn chwarae’n ymosodol. Maen nhw angen ennill gyda phwynt bonws,” meddai.
“Mae’n frwydr ddiddorol. Os bydd Ffrainc yn llwyddo i fynd ar y droed flaen ac yn dechrau’n dda, gallan nhw gael pwynt bonws.
“Bydd Cymru’n dod o dan bwysau gwahanol. Bydd Ffrainc yn taflu pethau atynt, maen nhw’n gryf yn y blaen ac maen ganddyn nhw chwaraewyr sy’n gallu cario’r bêl yn dda ym mhobman.
“Mae disgyblaeth yn ymwneud â pheidio â rhoi tir i ffwrdd a dyna lle mae Cymru wedi bod yn dda yn y Chwe Gwlad yma.”