Colli 1-0 i Leyton Orient o ganlyniad i gôl ddadleuol yn yr ail hanner a wnaeth Casnewydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd y pnawn yma.

Roedd gôl Conor Wilkinson yn y 61fed munud wedi cael ei gwrthod i ddechrau ar sail camsefyll, ond cafodd ei chaniatáu’n ddiweddarach gan y dyfarnwr ar ôl trafod gyda’r llumanwr.

Roedd rheolwr Casnewydd, Michael Flynn, yn galw am gadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol.

Roedd y daith i Gaerdydd yn destun dathlu i reolwr dros dro Orient, Jobi McAnuff, fodd bynnag, gan iddo chwarae i Gaerdydd am gyfnod yn gynharach yn ei yrfa.