Ddyddiau’n unig cyn y gêm ddarbi fawr yn erbyn Caerdydd, mae Ben Cabango wedi llofnodi cytundeb newydd gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe i’w gadw gyda’r Elyrch tan 2025.

Roedd ei gytundeb blaenorol yn dod i ben ar ddiwedd tymor 2022-23.

Ac mae’r rheolwr Steve Cooper a’r capten Matt Grimes wedi bod yn canu ei glodydd wrth gyfarfod â’r wasg cyn y gêm fawr nos Sadwrn (Mawrth 20).

Mae’r Elyrch yn ceisio dal eu gafael ar eu safle yn y gynghrair wrth anelu am ddyrchafiad awtomatig.

Bydd Brentford yn herio Nottingham Forest amser cinio dydd Sadwrn, cyn i dimau’r de wynebu ei gilydd yn Stadiwm Liberty yn y nos, tra bo Watford hefyd yn herio Birmingham ar yr un diwrnod.

Mae gan Watford 72 o bwyntiau ar ôl 37 gêm, Abertawe 69 o bwyntiau ar ôl 36 gêm a Brentford 67 o bwyntiau ar ôl 36 gêm.

Mae Cabango wedi chwarae mewn 55 o gemau i’r clwb, a daeth y gyntaf ohonyn nhw yn erbyn Northampton yng Nghwpan Carabao y tymor diwethaf.

Mae e wedi arwain y clwb ar bob lefel oedran er pan oedd e’n 14 oed.

Treuliodd e hanner cyntaf tymor 2018-19 ar fenthyg gyda’r Seintiau Newydd gan dorri record drwy fod y chwaraewr cyntaf dan gytuneb gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe i sgorio yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Goliau

Mae’r Cymro Cymraeg o Gaerdydd wedi sgorio pedair gôl mewn 29 o gemau y tymor hwn – yn erbyn Millwall, Blackburn, Barnsley a Coventry – ac wedi plesio yng nghanol yr amddiffyn.

Ac mae Steve Cooper wedi dweud wrth golwg360 fod hynny’n “record dda” i amddiffynnwr canol ifanc.

“Mae e’n hoffi ymosod ar y bêl yn y ddau gwrt cosbi,” meddai.

“Mae e wedi sgorio ambell un dda hefyd, rhaid i fi ddweud.

“Mae’r un yn erbyn Blackburn yn enwedig yn aros yn fy meddwl i.

“Mae hynny’n crisialu Ben, mae e’n gystadleuol, mae e eisiau rhoi o’i orau, does dim byd yn ormod iddo fe.

“Ond yn ystod anhrefn [yn erbyn Blackburn], arhosodd e’n bwyllog i wneud y peth cywir – mwy o hynny plis!”

Mae Matt Grimes hefyd wedi canmol ei berfformiadau o flaen y gôl wrth siarad â golwg360.

“Mae e wedi cael sawl un eleni,” meddai.

“Yn amddiffynnol, mae e’n amlwg yn graig yn y cefn hefyd.

“Mae’n dda ei gael e yn y tîm, ac mae e’n dal i ddysgu bob dydd, felly dwi’n meddwl ei fod e’n dipyn o chwaraewr.”

Mae Ben Cabango yn un o’r chwaraewyr ifanc niferus yn y tîm, ac mae Matt Grimes o’r farn fod Steve Cooper, fel rheolwr timau ieuenctid yn y gorffennol, yn gweddu’n berffaith i’r garfan.

“Dw i ddim yn meddwl bod unman gwell i chwaraewyr ifainc ar hyn o bryd.

“Yn amlwg, mae e’n rheolwr sy’n gwybod beth i’w wneud â chwaraewyr ifainc a sut i’w datblygu nhw, ac wedyn mae gyda chi sawl chwaraewr ifanc arall yn gwthio’i gilydd i gael y gorau allan o’i gilydd.

“Mae’n lle gwych, dw i wrth fy modd drosto fe [Ben Cabango] a dwi’n siŵr ei fod e’n hapus hefyd.”

‘Chwaraewr sy’n haeddu tipyn o glod’

“Newyddion gwych, mor hapus ei fod e wedi ymrwymo,” meddai Steve Cooper am Ben Cabango yn ystod ei gynhadledd wythnosol.

“Mae e’n chwaraewr ry’n ni’n dwlu arno.

“Daeth e trwy’r Academi a thorri drwodd i’r tîm cyntaf y llynedd, mae e’n cael tymor gwych i ni eleni a’r peth cyffrous yw fod ganddo fe dipyn o botensial i’w wireddu.

“Ry’n ni’n edrych arno fe erbyn hyn fel chwaraewr tîm cyntaf, nid fel chwaraewr ifanc, ond wrth gwrs ein bod ni’n dal i ymrwymo i’w ddatblygiad a’i raglen waith ar y cae ac oddi arno.

“Ond mae e’n chwaraewr sy’n haeddu tipyn o glod.

“Gallwch chi roi cyfleoedd i chwaraewyr, eu rhoi nhw yn y tîm cyntaf a’u cefnogi nhw oddi ar y cae, boed yn gorfforol neu’n dadansoddi fideo, ond ar ddiwedd y dydd mae’n rhaid bod chwaraewr eisiau gwneud hynny, ac mae Ben mor agored ei feddwl, mor benderfynol o lwyddo, mae’n dwlu chwarae i Abertawe ac wedi torri trwodd i garfan Cymru hefyd.

“Mae yna amser cyffrous i ddod iddo fe, ac ry’n ni’n falch iawn ohono fe.

“Galla i siarad yn agored fel hyn oherwydd dwi’n gwybod y bydd e’n gweithio’n galetach nawr i brofi mai cael cytundeb oedd y peth cywir a’i roi e yn y tîm cyntaf oedd y peth cywir.

“Beth dwi’n ei hoffi am Ben yw, pa bynnag glod mae’n ei gael, mae e’n defnyddio hynny fel ysgogiad i weithio’n galetach ac i wella mwy.

“Ry’n ni wedi cyffroi’n fawr, wrth ein boddau ei fod e wedi ymrwymo i ni, ac yn falch iawn ohono fe.”

Anafiadau

Mae Steve Cooper wedi siarad yn y gorffennol am yr angen i fod yn ofalus yn sgil anafiadau’r chwaraewr ifanc.

Ond mae’n dweud ei fod yn dal yn ifanc a bod digon o amser iddo fe ddangos ei allu pan ddaw cyfleoedd.

“Mae’n ymddangos yn hŷn,” meddai.

“Dw i erioed wedi bod yn un am feddwl bod hyfforddwyr yn datblygu chwaraewyr, ond maen nhw’n gallu helpu.

“Bydd hyfforddwyr yr Academi wedi ei helpu fe, gobeithio nad ydyn ni wedi ymyrryd o ran ein gwaith ni yma.

“Ond y chwaraewyr sy’n datblygu eu hunain, ac maen nhw bob amser yn haeddu’r clod.

“Mae unrhyw beth mae Benny neu unrhyw chwaraewr arall wedi’i wneud yn glod iddo fe neu iddyn nhw.

“Nodwedd fwyaf Ben yw ei agwedd, mae e’n amlwg yn chwaraewr da, yn amddiffynnwr da, yn foi da iawn, ond yn nhermau’r pêl-droediwr, ei agwedd a’i ysfa i wneud yn dda yw ei rinweddau gorau.

“Mae e’n gwella o’r eiliadau gwael yn dda, mae e’n sgorio goliau, dyw e beth yn trio newid ac mae e’n benderfynol o wneud yn well.

“Dyna pam dwi’n gyfforddus yn siarad amdano fe fel hyn oherwydd, gyda rhai chwaraewyr, mae’n rhaid i chi fod yn ofalus faint o glod rydych chi’n ei roi iddo fe.

“Ond gallech chi roi’r holl glod yn y byd i Benny a byddai ei draed yn dal ar y ddaear, a bydd e’n parhau i weithio i wella ac rydyn ni’n hapus iawn â fe.

“Mae e ynghanol y cyfan ac yn un o’r amddiffynwyr canol gorau sydd gyda ni.”