Mae gallu cyn-feddyg Team Sky a British Cycling, Dr Richard Freeman, i ymdrin â meddyginiaeth wedi cael ei amharu oherwydd ei gamymddygiad, mae Tribiwnlys wedi dyfarnu.
Fe wnaeth Richard Freeman gyfaddef i 18 o 22 cyhuddiad yn ei erbyn yn ymwneud ag archebu pecyn o Testogel i bencadlys British Cycling yn 2011.
Cafodd ei ganfod yn euog o bob un o’r cyhuddiadau, heblaw un.
Roedd casgliad y Tribiwnlys fel a ganlyn: “Roedd y Tribiwnlys yn credu bod camymddygiad Dr Freeman yn cynnwys nifer o elfennau arwyddocaol, gan gynnwys anonestrwydd difrifol, yn ogystal ag ymddygiad a allai fod wedi rhoi cleifion mewn perygl o niwed.
“Daeth i’r casgliad y byddai hyder y cyhoedd yn y proffesiwn yn cael ei danseilio pe na bai canfyddiad o nam yn cael ei wneud.
“Mae’r Tribiwnlys felly wedi penderfynu bod addasrwydd Dr Freeman i ymdrin â meddyginiaeth wedi cael ei amharu oherwydd ei gamymddygiad.”