Mae Cymru wedi gwneud un newid i’r tîm ar gyfer rownd derfynol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc, nos Sadwrn (Mawrth 20) gydag Adam Beard yn dychwelyd i gymryd lle Cory Hill.

Bydd y gic gyntaf am 8 o’r gloch ac mae Wayne Pivac yn gobeithio y gall Cymru “ddod â’r twrnament i ben gyda pherfformiad rydyn ni’n gwybod y gallwn ei roi”.

Mae’r Cymry wedi ennill eu pedwar gêm yn y Bencampwriaeth ac ar frig y tabl cyn teithio i Baris.

Daw Adam Beard, a ddechreuodd y tair gêm gyntaf i Gymru, yn ôl i’r tîm wrth ochr y capten Alun Wyn Jones.

Mae Wyn Jones, Ken Owens a Tomas Francis yn y rheng flaen i Gymru gyda Josh Navidi, Justin Tipuric a Taulupe Faletau wedi’u cynnwys y rheng ôl.

Enwir Gareth Davies a Dan Biggar yn rhif naw a rhif 10 gyda Jonathan Davies a George North yn parhau â’u partneriaeth yng nghanol y cae.

Josh Adams, Louis Rees-Zammit a Liam Williams yw’r tri cefnwr.

Camp Lawn?

Mae Cymru’n mynd am eu hail Gamp Lawn mewn tri twrnament, yn dilyn 2020 siomedig gyda dim ond tair buddugoliaeth mewn 10 gêm.

Er iddynt gael eu trechu gan Loegr y penwythnos diwethaf, Ffrainc yw’r unig dîm arall sy’n dal i allu ennill y gystadleuaeth, er y bydd angen buddugoliaeth arnynt yn y ddwy gêm sy’n weddill i gael unrhyw gyfle.

Dyw taith yr Alban i Baris dal heb gael ei haildrefnu’n swyddogol ar ôl i’r gêm a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer Chwefror 28 gael ei gohirio oherwydd achosion Covid-19 yng ngwersyll Ffrainc.

“Her fawr”

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac: “Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at ddydd Sadwrn ac at rownd derfynol y Chwe Gwlad.

“Rydym yn bedwar o bedwar hyd yma ond yn gwybod y penwythnos hwn bydd yn her fawr yn erbyn ochr Ffrengig da iawn, ond rydym yn edrych ymlaen ato.

“Rydyn ni’n gwybod bod angen i ni gamu i fyny o’n perfformiadau blaenorol ac rydyn ni eisiau dod â’r twrnament i ben gyda pherfformiad rydyn ni’n gwybod y gallwn ei roi.”

Tîm Cymru i wynebu Ffrainc:

1. Wyn Jones (34 Cap)
2. Ken Owens (81 Cap)
3. Tomas Francis (56 Cap)
4. Adam Beard (24 Cap)
5. Alun Wyn Jones (Capten) (147 Cap)
6. Josh Navidi (27 Cap)
7. Justin Tipuric (84 Cap)
8. Taulupe Faletau (85 Cap)
9. Gareth Davies (61 Cap)
10. Dan Biggar (91 Cap)
11. Josh Adams (31 Cap)
12. Jonathan Davies (87 Cap)
13. George North (101 Cap)
14. Louis Rees-Zammit (8 Cap)
15. Liam Williams (70 Cap)

Eilyddion

16. Elliot Dee (36 Cap)
17. Nicky Smith (38 Cap)
18. Leon Brown (16 Cap)
19. Cory Hill (31 Cap)
20. James Botham (5 Cap)
21. Tomos Williams (21 Cap)
22. Callum Sheedy (8 Cap)
23. Uilisi Halaholo (3 Cap)

Dim newidiadau i dîm Ffrainc

Mae Ffrainc wedi’r cadw’r tîm wnaeth herio Lloegr y penwythnos diwethaf ar gyfer y gêm yn erbyn Cymru ym Mharis.

Cafodd Les Bleus eu curo 23-20 gan Loegr yn Twickenhan, ond mae’r hyfforddwr Fabien Galthie wedi cadw ffydd gyda’r chwaraewyr wnaeth ddechrau’r gêm honno.

Charles Ollivon sy’n gapten ar y tîm gyda Antoine Dupont a Matthieu Jalibert, sy’n ffurfio’r bartneriaeth 9 a deg.

Mae Galthie wedi gwneud tri newid i’r fainc gyda’r prop Uini Atonio a’r clo Swan Rebbadj yn cyrmryd lle Cyril Cazeaux a Dorian Aldegheri, sydd wedi anafu.

Gallai Ffrainc ennill y Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers 2010 drwy guro Cymru a’r Alban yn eu dwy gêm olaf.

Tîm Ffrainc:

15. Brice Dulin

14. Teddy Thomas

13. Virimi Vakatawa

12. Gael Fickou

11. Damian Penaud

10. Matthieu Jalibert

9. Antoine Dupont

8. Gregory Alldritt

7 Charles Ollivon (Capten)

6. Dylan Cretin

5. Paul Willemse

4. Romain Taofifenua

3. Mohamed Haouas

2. Julien Marchand

1. Cyril Baille

Eilyddion:

16. Camille Chat

17. Jean-Baptiste Gros

18. Uini Atonio

19. Swan Rebbadj

20. Cameron Woki

21. Anthony Jelonch

22. Baptiste Serin

23. Romain Ntamack

Y Cymry “yn credu” bod Camp Lawn o fewn cyrraedd

Alun Rhys Chivers

Ar drothwy’r gêm enfawr ym Mharis nos Sadwrn, mae dau arbenigwr wedi bod yn cnoi cil ar obeithion Cymru