Mae Casnewydd wedi arwyddo’r Cymro Joe Ledley tan ddiwedd y tymor.

Mae’r chwaraewr canol cae, a fydd yn gwisgo’r rhif 34 yn ystod ei gyfnod gyda’r Exiles yn dod â lot o brofiad i Rodney Parade ar ôl chwarae dros 500 o gemau yn ystod ei yrfa.

Ar ôl graddio o academi Caerdydd, aeth Joe Ledley ymlaen i wneud mwy na 250 o ymddangosiadau i’r Adar Gleision, gan eu helpu ar eu ffordd i rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn 2008 ar ôl sgorio’r gôl fuddugol yn erbyn Barnsley yn y rownd gynderfynol.

Roedd hefyd yn rhan o’r tîm gyrhaeddodd rownd derfynol gemau ail-gyfle’r Bencampwriaeth 2010, lle sgoriodd yn erbyn Blackpool cyn colli allan o drwch blewyn ar ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

Ymunodd â Celtic yn 2010 a threuliodd dri thymor a hanner gyda’r clwb.

Enillodd Uwch Gynghrair yr Alban dair gwaith, yn ogystal â chodi Cwpan yr Alban.

Symudodd i Uwch Gynghrair Lloegr gyda Crystal Palace yn Ionawr 2014, gan dreulio tair blynedd a hanner gyda’r clwb a’u helpu i gyrraedd rownd derfynol Cwpan yr FA yn 2016.

Treuliodd gyfnodau gyda Derby County a Charlton Athletic cyn symud i Awstralia i chwarae i Newcastle Jets y tymor diwethaf.

Roedd wedi bod yn hyfforddi gyda Chasnewydd cyn symud i Awstralia.

Mae wedi cynrychioli ei wlad 77 o weithiau, gyda’i gap diwethaf yn dod yn erbyn Mecsico yn 2018.

Mae Casnewydd yn y pumed safle yn League Two, bedwar pwynt i ffwrdd o’r safleoedd dyrchafiad awtomatig.

“Braint”

Dywedodd Ledley: “Mae’n fraint cael bod yma. Yr oeddwn yma fis Ionawr diwethaf yn hyfforddi gyda’r tîm ac yr oedd y cadeirydd a’r rheolwr ill dau’n fy nghefnogi, felly mae dod yn ôl a’u had-dalu am yr hyn a wnaethant i mi yn rhyfeddol.

“Mae wedi bod yn wych beth mae’r tîm wedi’i wneud hyd yn hyn ac rydym am allu parhau â hynny nawr.

“Mae gen i lawer o brofiad ac wedi bod yn y cynghreiriau uwch ychydig o weithiau.

“Dim ond cytundeb byr ydi hwn, ond gobeithio y gallwn fynd dros y llinell derfyn.”

“Bydd ganddo ran fawr i’w chwarae”

Ychwanegodd Michael Flynn, rheolwr Casnewydd: “Mae’n wych cael Joe yn y garfan oherwydd ei fod wedi hyfforddi gyda ni o’r blaen ac roedd yn agos at ymuno â ni’r tymor diwethaf.

“Roeddwn i’n deall pam yr aeth i chwarae allan yn Awstralia oherwydd ei fod yn gyfle gwych iddo, ond rwy’n falch ei fod wedi arwyddo i ni o’r diwedd.

“Rwy’n credu y bydd ganddo ran fawr i’w chwarae ar y cae ac oddi arno rhwng nawr a diwedd y tymor, a bydd ei brofiad yn ein helpu i gyrraedd lle rydyn ni eisiau bod.”