Mae canolwr merched Cymru, Alecs Donovan, wedi cyhoeddi ei bod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol.
Mae’r ddynes 30 oed, sy’n rhedeg busnes yoga ei hun, wedi ennill saith cap dros Gymru ers ei hymddangosiad cyntaf yn erbyn yr Eidal yn Stadiwm y Principality yn 2018.
“Rydw i wedi profi’r uchelderau mwyaf; yr iselderau mwyaf; yr amseroedd gorau a’r gwaethaf,” meddai.
“Rwy’n gwybod yn fy nghalon mai dyma’r penderfyniad cywir.
“Mae’r ymrwymiad rydyn ni i gyd yn ei ddangos i chwarae dros ein gwlad yn un na fydd pobl byth yn ei ddeall.
“Mae wastad yn chwyrligwgan emosiynol ond yn un na fyddwn i’n ei newid.”
Wales centre Alecs Donovan has announced her retirement from international rugby. She said: "I’ve had the biggest highs; the biggest lows; the best times and the worst. I just know in my heart this is the right decision." pic.twitter.com/eG5Bv9wzHk
— BBC ScrumV (@BBCScrumV) March 17, 2021