Mae ymosodwr Leeds, Tyler Roberts, yn benderfynol o ddangos ei gryfderau i ennill lle ar yr awyren i Ewro 2020 – ac mae’n credu y bydd rheolwr Leeds, Marcelo Bielsa, yn ei helpu i gyrraedd yno.

Bu’n rhaid i Roberts aros am ei gyfle yn Leeds – gyda Bielsa yn ei enwi ymhlith yr eilyddion yn amlach na pheidio yn yr Uwchgynghrair.

Ond mae’r llanc 22 oed wedi dechrau’r chwe gêm ddiwethaf Leeds ac wedi dechrau creu argraff yn y rôl rhif 10 y tu ôl i Patrick Bamford.

“Dwi byth yn hapus!”

“Mae gen i bethau i’w profi bob amser,” meddai Roberts pan ofynnwyd iddo a oedd yn teimlo ei fod wedi gwneud digon i fod yng ngharfan Cymru ar gyfer yr Ewros yr haf hwn.

“Fi yw fy meirniad llymaf ar ôl pob gêm, dwi byth yn hapus!

Dw i bob amser yn teimlo bod gen i fwy i’w roi – a chysondeb yw’r prif beth ar hyn o bryd.

“Ceisio aros yn y tîm ar lefel clwb, a rhoi’r perfformiadau a fydd yn fy rhoi ar yr awyren [i’r Ewros].”

Nid yw Roberts, sydd ag 11 o gapiau, wedi sgorio yn yr Uwchgynghrair eto, ac am hynny dywedodd: “Mae hynny’n rhywbeth rwy’n gwybod bod angen i mi ei ychwanegu at fy ngêm.

“Mae angen i mi fynd i fwy o safleoedd i sgorio.

“Mae wedi bod yn rhwystredig, ’mod i heb sgorio eto. Dwi wedi bod yn galed ar fy hun am beidio sgorio ond mae gen i ffydd y bydd yn digwydd.”

Marcelo Bielsa

Ymunodd Roberts â Leeds o West Brom ym mis Ionawr 2018 – ond fe wnaeth anaf ei atal rhag gwneud ei ymddangosiad cyntaf y tymor hwnnw.

Cyrhaeddodd Marcelo Bielsa yn Elland Road y mis Mehefin canlynol ac arwain y clwb i’r Uwchgynghrair yr haf diwethaf.

“Mae wedi bod yn athro yn fwy na hyfforddwr,” meddai Roberts.

“Mae e wedi dysgu cymaint i mi am y gêm a beth sydd angen i mi ei wella. Rhannau o’m gêm nad ydw i erioed wedi edrych arnyn nhw o’r blaen.

“Mae wedi bod yn brofiad gwych ac rwy’n teimlo fy mod wedi aeddfedu fel chwaraewr.

“Mae wedi bod yn flynyddoedd gwallgof ond dwi’n bendant wedi gwella tipyn.

“Mae’n wych cael bod yn y tîm. Yn bendant, roedd angen gemau arnaf ac rwy’n teimlo fy mod yn cryfhau bob gêm.

“Amynedd sydd wedi bod yn allweddol y tymor hwn. Roedd y tymor cynt ychydig yn anodd gydag anafiadau, ond nawr dwi wedi bod yn ddi-anaf ac wedi bod yn aros am fy nghyfle.”

O ran safle ar y cae, mae Roberts yn gweld ei hun fel rhif naw yn hytrach na rhif 10 yn yr hirdymor:

“Unrhyw safle dwi’n gallu cael munudau ynddo… dwi’n easy!” meddai Roberts. “Ond gan feddwl am y dyfodol dw i’n gweld fy hun fel rhif naw ac mae’n well gen i chwarae naw.

“Mae rhif 10 yn safle dw i wedi dysgu ac wedi gorfod astudio dros y blynyddoedd diwethaf. Ond dwi’n gyfforddus yn chwarae yno.”

“Ar dân i gynrychioli Cymru eto”

Efallai mai Gareth Bale, Daniel James a chawr Caerdydd, Kieffer Moore, yw’r tri blaen disgwyliedig i Gymru ar gyfer eu gêm ragbrofol Cwpan y Byd 2022 yng Ngwlad Belg nos Fercher.

Ond dywedodd Roberts, sy’n gweld ei hun fel rhif naw yn hytrach na rhif 10: “Rwy’n hapus gyda fy lefelau ffitrwydd ar hyn o bryd ac rwy ar dân i gynrychioli Cymru eto.

“Rwy’n gwybod yr hanes sydd gennym gyda Gwlad Belg a gallwn gymryd hyder o hynny.

“Ond cawsom hefyd ymgyrch gymhwyso dda ar gyfer yr Ewros a gallwn wthio am Gwpan y Byd nawr.”

Hiliaeth: “Mae rhywbeth angen digwydd yn llawer uwch i fyny”

Mae Tyler Roberts o’r farn ei bod yn bosib bod penlinio cyn gêm wedi colli ei effaith fel protest yn erbyn hiliaeth.

Nid yw chwaraewyr Cymru wedi penderfynu eto a fyddant yn parhau i benlinio cyn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yr wythnos hon yn erbyn Gwlad Belg a’r Weriniaeth Tsiec, a’r gêm gyfeillgar gyda Mecsico.

Asgellwr Crystal Palace a’r Côte d’Ivoire, Wilffred Zaha, oedd chwaraewr cyntaf yr Uwchgynghrair i beidio â phenlinio yn ddiweddar.

Dywedodd Zaha, sydd wedi tynnu sylw at hiliaeth yn ei erbyn ar y cyfryngau cymdeithasol, fod y weithred “wedi dod yn rhan o’r drefn cyn y gêm” ac nad yw’n atal chwaraewyr du rhag cael eu cam-drin.

“Mae’n beth gwych sy’n dod â’r holl chwaraewyr at ei gilydd a dylai’r byd pêl-droed fod yn falch o hynny,” meddai Roberts cyn taith Cymru i Leuven.

“Ond nid yw’n gwneud gormod pan welwch chi’r cam-drin ar y cyfryngau cymdeithasol sydd wedi bod yn digwydd yn yr wythnosau a’r misoedd diwethaf. Rwy’n teimlo ei fod wedi colli ei effaith.

“Mae’n destun pryder – mae’n rhy hawdd i’r bobl hyn greu cyfrifon i anfon sylwadau difrïol a chael getawê.

“Mae rhywbeth angen digwydd yn llawer uwch i fyny.”