Bydd Joe Allen yn cwrdd â Gwlad Belg eto’r wythnos hon gydag atgofion o fuddugoliaeth syfrdanol Cymru dros y Belgiaid yn Lille yn Ewro 2016 yn fyw yn y cof.
Dywedodd Allen iddo ailwylio’r gêm yr haf diwethaf.
Roedd Allen allan gydag anaf gweyllen y ffêr (Achilles tendon) – yn wir, byddai wedi methu Ewro 2020 pe na bai wedi ei ohirio am 12 mis oherwydd pandemig y coronafeirws.
Manteisiodd ar y cyfle i wylio ailddarllediadau o Ewro 2016 – gyda BBC Cymru yn dangos pob gêm o daith y Dreigiau i’r rownd gynderfynol.
“Doeddwn i erioed wedi eu gwylio’n ôl…”
“Roedd lot o’r bechgyn yn sôn am sut roedden nhw’n dangos y gemau eto,” meddai Allen, sydd nôl yng ngharfan Cymru wedi absenoldeb o 16 mis ar gyfer dechrau ymgyrch ragbrofol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2022 yn Leuven nos Fercher.
“Doeddwn i erioed wedi eu gwylio’n ôl, felly cefais gyfle i fynd drwyddyn nhw eto a mynd ar y daith honno…
“Fe wnaethon nhw fy atgoffa faint roedd yn ei olygu i gynifer o bobl ac am beth gwych oedd bod yn rhan ohono!
“Y foment mae Vokesy [Sam Vokes] yn sgorio yn erbyn Gwlad Belg yw’r foment fawr. Dyna pryd sylweddolon ni ein bod wedi ennill y gêm ac roedden ni drwodd.
“Roedd hynny’n foment wefreiddiol ac yn un na fyddwn ni fyth yn ei hanghofio. Roedd llawer o anghrediniaeth … ond roedden ni’n meddwl ‘ymlaen at y semi’ a gadewch i ni weld pa mor bell gallwn ni fynd.
“Am haf ydoedd…”
“Am haf ydoedd ac rydyn ni i gyd eisiau cael blas ar rywbeth tebyg yr haf hwn, gydag un llygad ar gyrraedd Cwpan y Byd. Mae’r chwaraewyr hŷn yn sylweddoli y gallai fod yn gyfle olaf i gyrraedd un.”
Cafodd Allen ei anafu fis Mawrth y llynedd ac ni ddychwelodd i dîm cyntaf Stoke tan Ddydd San Steffan.
Mae’r chwaraewr 31 oed yn cyfaddef ei bod wedi bod yn “ffordd hir yn ôl”, ond mae’n debygol o ennill cap rhif 56 yn erbyn Gwlad Belg – tîm llawn talent, gyda llawer o sêr y mae wedi chwarae yn eu herbyn droeon yn ei yrfa.
Bydd Allen hefyd yn gweld wyneb cyfarwydd ar fainc Gwlad Belg, sef y rheolwr, Roberto Martinez. Martinez roddodd ei ymddangosiad cyntaf i Allen yn Abertawe bron i 14 mlynedd yn ôl.
“Roedd Roberto yn wych i mi ac yn ddylanwad enfawr,” meddai Allen.
“Rhoddodd gyfle i mi dorri i mewn i’r tîm cyntaf yn ifanc yn Abertawe gyda ffordd o chwarae a oedd yn berffaith.
“Roedd e’n wych i mi ddysgu a datblygu fy ngêm. Mae arnaf ddyled fawr iddo.
“Rwy’n credu ein bod ni i gyd yn gwybod fel chwaraewyr yn ôl bryd hynny ei fod yn mynd i fynd ymlaen i gyflawni pethau gwych fel rheolwr.
“Nid yw’n syndod bod ganddo un o’r swyddi mwyaf mewn pêl-droed rhyngwladol nawr ac mae’n gweithio gyda rhai chwaraewyr gwych.”
“Bydd yn her enfawr i mi yn unigol, a’r tîm.”
Er mai Gwlad Belg yw rhif un y Byd ar restr FIFA, nid yw eu record yn erbyn Cymru yn dda.
D’yw Cymru heb golli mewn pedair gêm ers mis Hydref 2013 – gyda dwy fuddugoliaeth a dwy gêm gyfartal. Y gêm ddiwethaf rhyngthynt oedd y fuddugoliaeth 3-1 honno yn rownd gogynderfynol Ewro 2016.
Dywedodd Allen: “Gobeithio y gallwn ni ddefnyddio’r siom maen nhw wedi’i chael o chwarae yn ein herbyn o’r blaen er ein mantais ni. Efallai y gellir defnyddio hynny o’n plaid, pwy a ŵyr?
“Ond mae ganddyn nhw ddigon o chwaraewyr gwych i brofi fy hun yn eu herbyn.
“Yr un sy’n sefyll allan yw Kevin De Bruyne, sydd, yn fy marn i, yn un o’r chwaraewyr gorau yn y byd.
“Bydd yn her enfawr i mi yn unigol, a’r tîm.”