Mae gan bêl-droed Cymru ‘Wal Enfys’ newydd i ddarparu amgylchedd diogel i gefnogwyr LHDT+ ddilyn eu gwlad yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022.

Mae’r wal wedi derbyn cefnogaeth lawn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn ogystal ag “ymateb anhygoel”.

Bydd yn cael ei lansio mewn cyfarfod cymdeithasol rhithiol cyn gêm agoriadol Cwpan y Byd yn erbyn Gwlad Belg ddydd Mercher (Mawrth 24).

Dywedodd cyd-sylfaenydd y ‘Wal ‘Enfys’, Brandon Gregory: “Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel, mor gadarnhaol.

“Mae’n ymwneud ag adeiladu ymdeimlad o gymuned ac nid oes rhaid i chi fod yn rhan o’r gymuned LHDT+ i ymuno â hi.

“Gallwch fod yn berson strêt sydd eisiau cefnogi’r achos a’r hyn rydyn ni’n sefyll amdano.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn ardderchog wrth ddarparu’r gefnogaeth ac wedi darparu’r hyn wnaethon nhw addo.

“Mae’n fy ngwneud yn hynod falch o fod yn Gymro a bod yn rhan o rywbeth rwy’n angerddol amdano.”

“Fe wnes i roi’r gorau i chwarae am flynyddoedd”

Mae Brandon Gregory wedi sôn am brofiadau pêl-droed sydd ganddo fel aelod o’r gymuned LHDT+

Mae’r gŵr 26 oed yn dweud iddo gael ei gam-drin wrth chwarae pêl-droed i’w dîm lleol yn y Rhondda cyn symud i Ddreigiau Caerdydd.

Ar hyn o bryd, Y Dreigiau yw’r unig glwb pêl-droed LHDT+ yng Nghymru ac maen nhw’n chwarae yng nghynghrair rhwydwaith cefnogwyr pêl-droed hoyw.

“Fe ddes i allan pan oeddwn i’n 15 oed a cafodd y tîm roeddwn i’n chwarae iddo wared ohona i fel pe na bawn i’n bodoli,” meddai.

“Fe wnes i roi’r gorau i chwarae am flynyddoedd a dim ond pan symudais a dod o hyd i Ddreigiau Caerdydd ar-lein y dechreuais chwarae eto.

“Nid yw’n gymaint o brofiad negyddol bod yn gefnogwr, mae’n fwy o fater diwylliant pêl-droed.

“Mae tipyn o densiwn ar y mater.”

“Cyn belled â bod Cymru’n chwarae pêl-droed byddwn ni yno”

Awgrymodd arolwg diweddaraf Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod tua dau y cant o’r bobl sy’n ymwneud â phêl-droed Cymru – boed yn chwaraewyr, hyfforddwyr, swyddogion neu gefnogwyr – yn rhan o’r gymuned LHDT+.

Mae clybiau blaenllaw Cymru wedi helpu i sefydlu’r Wal Enfys, gyda grwpiau yn Abertawe a Wrecsam eisoes yn bodoli a thrafodaethau’n parhau ynglŷn â chreu eraill yng Nghaerdydd a Chasnewydd.

Bydd lansiad swyddogol y Wal Enfys yn cynnwys cwis a sgwrsio ysgafn am bêl-droed, gyda chefnogwyr LHDT+ o Wlad Belg ac aelodau o’r ddwy Gymdeithas Bêl-droed hefyd yn bresennol.

“Rydyn ni eisiau cadw’r naws yn gyfeillgar a hwyliog,” meddai Brandon Gregory.

“Ond os yw pobol eisiau lleisio pryderon neu brofiadau yna rydyn ni yno i wneud hynny hefyd.

“Mae llawer o nerfusrwydd o gwmpas pobol yn bod yn nhw eu hunain ac mae’r grŵp hwn yn caniatáu i bobl gymryd y cam hwnnw.

“Maen nhw’n gwybod eu bod yn dod i amgylchedd diogel, yn gwrando ar brofiadau pobol eraill ac yn gweld croeso nad oedd yno o’r blaen.

“Mae’n mynd i barhau: cyn belled â bod Cymru’n chwarae pêl-droed, byddwn ni yno.”

“Y mwyaf o bobol y gallwn eu cynnwys … y gorau oll ynte?”

Mae’r Wal Enfys wedi ennill cefnogaeth gan aelodau dimau dynion a merched Cymru.

Dywedodd Connor Roberts, amddiffynnwr Abertawe a Chymru: “Rwy’n gwybod bod gen i gefnogwyr sy’n rhan o’r gymuned honno ac nid yw hynny’n eu gwneud yn llai o gefnogwyr na’r bobol sydd ddim.

“Y mwyaf o bobol y gallwn eu cynnwys a’u gwneud i deimlo bod croeso iddynt wylio pêl-droed, gwrando ar bêl-droed, dod i chwarae pêl-droed, hyfforddi pêl-droed, y gorau oll ynte?

Dywedodd Jess Fishlock, y chwaraewr sydd â’r nifer fwyaf o gapiau i dîm merched Cymru, ac aelod o’r gymuned LHDT+: “Pe na bawn i’n ymwneud â phêl-droed merched mae’n debyg y byddwn i’n dal i fod yn wardrob Narnia!

“O oedran ifanc iawn, rhoddodd bêl-droed bopeth yr oedd angen i mi ei ddeall fod bod yn hoyw nid yn unig yn iawn, ond yn gwbl normal, a hefyd yn wych.”