Mae gweinidogion o Gymru, Gogledd Iwerddon, a’r Alban yn cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddiystyru’r Llywodraethau Datganoledig.
Yn dilyn cyfarfod rhwng y tair gwlad, mae’r gweinidogion wedi lleisio pryderon bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn diystyru eu strwythurau wrth ddyrannu’r cyllid sy’n dod yn lle cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Gweinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Gogledd Iwerddon, Conor Murphy, a Gweinidog Masnach, Arloesi a Chyllid Cyhoeddus yr Alban, Ivan McKee, wedi cyhoeddi datganiad yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ymrwymo i drafod mewn ffordd ystyrlon, ac i barchu’r trefniadau datganoledig.
“Anwybyddu ein trefniadau datganoli”
“Rydym am fynegi’r pryderon sydd gennym ynghylch penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiystyru’r trefniadau datganoli y cytunwyd arnynt yn ddemocrataidd, wrth i’r Gronfa Codi’r Gwastad a’r Gronfa Adfywio Cymunedol a gyhoeddwyd yng Nghyllideb 2021 gael eu rhoi ar waith,” meddai’r Gweinidogion.
Dair wythnos yn ôl cyhoeddodd y Trysorlys yn Llundain y byddai’r Gronfa Codi’r Gwastad yn cael ei hymestyn i gynnwys Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Pan gyhoeddwyd £4bn i Loegr y llynedd, roedd hynny’n golygu £800m yn ychwanegol i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Byddai Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gallu penderfynu beth i’w wneud â’r £800m.
Yn ôl y Gweinidogion, “anwybyddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymdrechion a cheisiadau’r Llywodraethau Datganoledig i gyfrannu at y broses o ddatblygu’r cronfeydd hyn am bron i dair blynedd, ac mae nawr yn defnyddio pwerau o dan Ddeddf Marchnad Fewnol y DU i’n hepgor ni’n llwyr.
“Mae’n anwybyddu ein trefniadau datganoli ac yn darparu cyllid i ddiwallu blaenoriaethau Whitehall yn hytrach na blaenoriaethau pobol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.”
Fe wnaeth nifer o wleidyddion godi pryderon y byddai Bil y Farchnad Fewnol yn ymosod ar ddatganoli.
Angen “mwy nag ymrwymiad gan Weinidogion y Deyrnas Unedig”
“Rhaid mynd i’r afael â hyn cyn i unrhyw waith polisi pellach gael ei wneud ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin,” dyweda’r gweinidogion. Hon fydd y gronfa a fydd yn cymryd lle Cronfeydd Strwythurol Ewrop.
“Nid yw’r cymorth a gyhoeddwyd drwy’r cronfeydd presennol yn arian newydd. Mae’r cyllid hwn wedi bod gyda’n priod lywodraethau ers datganoli pwerau yn y maes.
“Os yw’r penderfyniadau’n cael eu gwneud yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Prydain, mae hyn yn bell iawn o wireddu’r ymrwymiadau a wnaed yn ystod refferendwm yr Undeb Ewropeaidd i ddatganoli’r holl bwerau hyn yn llawn ar ôl inni ymadael â’r UE.
“Wrth symud ymlaen, mae angen inni gael mwy nag ymrwymiad gan Weinidogion Prydain y bydd y Llywodraethau Datganoledig yn cael bod yn rhan o ddatblygiad y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae angen cynllun clir arnom sy’n nodi sut a phryd y bydd hyn yn digwydd.
“Mae angen ymgynghori â ni a chaniatáu inni gyfrannu wrth bennu beth fydd rôl y Llywodraethau Datganoledig er mwyn sicrhau bod y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu hamddiffyn ac y bydd swyddi a ffyniant yn cael eu cyflawni mewn modd tecach sy’n fwy cynhwysol a chynaliadwy ar gyfer ein holl ddinasyddion.”
Bydd gweinidogion y tair gwlad yn gwneud cais ar y cyd am gyfarfod brys â’r Trysorlys er mwyn trafod y materion hyn.