Bydd nifer seddi’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd yn cynyddu yn sgil etholiad eleni, yn ôl ymgeisydd y blaid honno yn Nwyfor Meirionnydd.

Ar hyn o bryd mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol un sedd ym Mae Caerdydd, sef sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed (etholaeth Kirsty Williams).

Ac yn gyson ers diwedd 2019, mae pob un arolwg barn wedi darogan y bydd nifer seddi’r blaid yn aros yr un fath yn dilyn etholiad Senedd mis Mai.

Ond mae Steve Churchman yn llawer fwy optimistaidd, ac mae yntau o’r farn y bydd y nifer yn cynyddu.

“Dyw’r arolygon barn ddim yn edrych yn grêt, dw i’n derbyn hynny,” meddai wrth golwg360.

“Ond dyw hynny ddim yn golygu na allwn ni ennill seddi.

“Rydym yn disgwyl ennill tir ar y rhestrau rhanbarthol. Felly rydym yn disgwyl gweld mwy o Aelodau Democratiaid Rhyddfrydol yn cael eu hethol ym mis Mai eleni.”

Home rule i Gymru’

Fis Chwefror mi alwodd Mark Drakeford, arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru, am home rule” i Gymru (setliad datganoli cryfach roedd e’n ei feddwl).

Wrth drafod polisïau diwygio y Democratiaid Rhyddfrydol, mae Steve Churchman yn pwysleisio’r cysylltiad rhwng y term a rhagflaenydd ei blaid yntau.

“Rhaid cofio, wrth drafod gwleidyddiaeth prif ffrwd, mai’r Blaid Ryddfrydol oedd y cyntaf i ddadlau tros hunanlywodraeth (home rule) i Gymru,” meddai.

“Dyw hynny ddim yn golygu annibyniaeth. Yn ei hanfod mae’n golygu datganoli. Cymaint o ddatganoli ag sy’n bosib. Dw i’n hoffi ei alw’n devo max.

“Mae modd ei rhoi i gymunedau lleol fel eu bod nhw’n medru penderfynu beth sydd orau iddyn nhw. Fel hynna rydym yn profi’r budd o weithio gyda’n gilydd oddi fewn i Deyrnas Unedig.

“Allwn ni gefnogi ein gilydd, ond ar yr un pryd gallwn wneud y penderfyniadau sy’n cyfri yn lleol. Allwn gymryd y penderfyniadau yna yn lleol.”

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am Deyrnas Unedig ffederal, am ddatganoli cyfiawnder, am waredu Comisiynwyr Heddlu, ac am newid y system bleidleisio sydd gennym am etholiadau’r Senedd.

Pwy yw Steve Churchman?

Mae Steve Churchman, 58, yn hanu “o ardal Llundain-Essex yn wreiddiol”, ac mi symudodd i Wynedd yn 1999.

Yng Ngarndolbenmaen mae e’n byw ac, am flynyddoedd maith, fe oedd yn rhedeg siop a swyddfa bost y pentref.

Fe yw’r unig gynghorydd Democratiaid Rhyddfrydol ar Gyngor Gwynedd, ac mae wedi herio sedd Dwyfor Meirionnydd mewn pob etholiad Senedd ers 1999.

Ymgeiswyr Dwyfor Meirionnydd

Mae golwg360 wedi cysylltu â phob ymgeisydd yn Nwyfor Meirionnydd. Rhoddwyd sawl cynnig i Robert Glyn Daniels ond ni dderbyniwyd ymateb.

Mi fydd y wefan hefyd yn rhoi sylw i ymgeiswyr mewn etholaethau penodol eraill cyn yr etholiad.