Mae ymchwil yn dangos bod bron i hanner (47%) rhieni Cymru yn dweud bod eu plant yn treulio mwy o amser yn eu llofftydd ers dechrau’r pandemig.
Ar gyfartaledd, mae’r plant hyn yn treulio tair awr ychwanegol yn eu llofftydd bob dydd, yn ôl astudiaeth gan My Nametags.
Dywed 14% o rieni plant oedd yn treulio mwy o amser yn eu llofftydd eu bod nhw yno am bum awr, neu fwy, yn ychwanegol y dydd.
Awgryma hyn fod nifer o blant yn treulio diwrnodau cyfan, fwy neu lai, yn yr un ystafell.
Fe fu’r astudiaeth gan y cynhyrchwyr My Nametags yn astudio faint o amser ychwanegol mae plant yn ei dreulio dan do, ac effaith hyn ar y genhedlaeth iau.
Canfyddiadau
Dywedodd 71% o rieni plant sy’n treulio amser ychwanegol yn eu llofftydd eu bod nhw’n poeni bod hyn yn cael effaith negyddol ar eu plant.
Golyga hyn fod rhieni yng Nghymru ymysg y mwyaf pryderus yn y Deyrnas Unedig.
Yn ôl 14%, roedd y newid wedi cael effaith bositif ar eu plant.
Dywedodd 57% o’r rhieni fod eu plant nhw wedi diflasu yn sgil treulio mwy o amser yn eu llofftydd, ond cyfeiriodd y rhieni at nifer o sgil effeithiau negyddol.
Roedd y sgil effeithiau yn cynnwys bod â llai o gymhelliad i wneud gweithgareddau (43%), ei chael hi’n fwy anodd canolbwyntio (29%), a phrofi unigrwydd (29%).
Yn ôl nifer o rieni, mae sgiliau cymdeithasol eu plant wedi dirywio, ac maen nhw’n llai hyderus nag yr oedden nhw cyn y pandemig.
Dangosodd yr astudiaeth fod 71% o’r plant yn defnyddio eu llofftydd i fwyta prydau, 57% yn chwarae yno, 57% yn gwneud eu gwaith ysgol yno, a 43% yn cymdeithasu yno.
“Effaith fawr ar blant”
“Mae’n amlwg o’r ymchwil yma, ac ymchwiliadau eraill sydd wedi eu cyhoeddi llynedd, fod Covid-19 wedi cael effaith fawr ar blant,” meddai Bea Marshall, Arbenigwr ar Fagu Plant.
“Mae ein plant wedi bod o dan bwysau sylweddol i addasu’n sydyn i drefn newydd.
“Yn ystod adegau anodd, gall y llofft fod yn noddfa, sy’n cynnig heddwch a chysur felly mae’n naturiol y byddai plant yn mynd yno er mwyn osgoi ffraeo gyda brodyr neu chwiorydd, ac i fagu nerth newydd.
“Am y rhesymau hyn, ni ddylai’r amser ychwanegol y mae plant yn ei dreulio yn eu llofftydd fod yn achos i rieni bryderu’n syth.
“Mae effaith Covid-19 wedi bod yn sylweddol ar iechyd meddwl plant, ac mae’n ymddangos drwy eu hymddygiad.
“Wrth i ni symud tuag at lai o gyfyngiadau bydd ein plant yn cael cyfleoedd i adennill cydbwysedd wrth dreulio mwy o amser gyda’u ffrindiau, dychwelyd i’r ysgol, a gallu treulio mwy o amser tu allan wrth i’r dyddiau ymestyn a’r tywydd cynhesu, gobeithio.”
Posib rheoli’r amgylchedd
“Yn My Nametags, rydym yn siarad â miloedd o rieni bob diwrnod ac yn gwybod pa mor anodd yw pethau’n sgil y pandemig,” meddai Lars B Anderson, Prif Weithredwr My Nametags.
“O fod wedi diflasu’n amlach, i golli’u tymer a methu canolbwyntio, mae’r darganfyddiadau yn dangos fod y cyfyngiadau yn cael effaith ar y genhedlaeth iau.
“Er nad oes gennym ni reolaeth dros faint o amser mae plant yn ei dreulio adre ar hyn o bryd, gallwn reoli’r amgylchedd, a gall newidiadau syml wneud gwahaniaeth mawr er mwyn sicrhau fod llofftydd plant yn llefydd cadarnhaol.”
Mae My Nametags, y cynhyrchwyr sticeri wal a labeli wnaeth greu’r ymchwil, wedi rhannu cyngor ar sut i wneud llofftydd yn llefydd mwy cadarnhaol:
- Creu llefydd ar wahân er mwyn gweithio, chwarae, a chysgu. Os oes modd, dylai’r safle gwaith fod tu allan i’r llofft.
- Sicrhau bod digon o olau dydd yn dod mewn i’r ystafell.
- Goleuo’r ystafell gydag addurniadau lliwgar
- Clirio’r ystafell, gall llofftydd blêr arwain at amharu ar batrwm cwsg. Bydd ystafell daclus yn teimlo’n oleuach.
- Gwneud cynllun wythnosol er mwyn sicrhau fod y teulu’n treulio amser tu allan yn gyson.
Cafodd yr ymchwil ei chwblhau gan Censuswide ar ran My Nametags eleni, gan holi 1,000 o rieni yng ngwledydd Prydain.