Mae’r Almaenes sy’n bennaeth ar y Cyngor Llyfrau wedi ymateb yn chwyrn ar ôl i symbol y Swastika ymddangos ar yr adeilad, gan rybuddio nad yw hi’n “arbennig o shocked bod hyn wedi digwydd yn Aberystwyth”.

Yn dilyn y digwyddiad bore ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 30), dywedodd Helgard Krause ar Twitter fod y digwyddiad “wedi cryfhau fy mhenderfyniad i fynd i’r afael â’r anghyfartaledd sy’n bod yn ein cymdeithas lle bynnag y down o hyd iddo”.

Mae hi wedi cadarnhau bod yr heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad.

“Digwyddodd hwn dros nos, dwi ddim yn gwybod pwy achos, yn anffodus, does dim CCTV cameras gyda ni,” meddai wrth golwg360.

“Ry’n ni wedi meddwl am roi nhw lan achos mae’r adeilad yn eitha’ gwag ambell dro achos ’dyn ni i gyd yn gweithio adre’ ond ’dyn ni ddim wedi gwneud achos Covid achos mae’n rhaid gadael pobol i mewn i’r adeilad.”

‘Dwi ddim yn ildio i’r agwedd’

Yn ôl Helgard Krause, dydy hi ddim eisiau ildio i agweddau hiliol o’r fath ac mae’n dweud, fel Almaenes, fod ganddi “deimladau cryf” am symbolaeth y Swastika.

“Dyn ni ddim yn gwybod pwy sydd wedi gwneud hwn ond, wrth gwrs, dechrau Mawrth, roedd yna incident yng nghoed Penglais, roedd yna symbol Natsïaidd yn y coed,” meddai.

“Dw i ddim yn gwybod os yw hyn yn gysylltiedig, ond i fi fel Almaenes, mae’r Swastika yn symbol reit hyll a dwi’n teimlo’n eitha’ cryf am y peth.

“Dwi ddim yn gwybod os ydi pobol yn gwerthfawrogi ond, yn yr Almaen, mae’r Swastika yn illegal, dych chi ddim yn gallu ei roi e yn unrhyw le, ar gloriau llyfrau ac yn y blaen, dyna pa mor gryf ydi’r agwedd at y symbol.

“Mae hwn yn shocking ond, wrth gwrs, fel dwi wedi dweud ar Twitter, dwi ddim yn gwneud dim byd achos dwi ddim yn ildio i’r agwedd a dwi ddim yn cytuno, a dyn ni ddim yn rhoi lan gyda hwn.

“Mae’n anodd iawn i ni wybod a ydyn nhw wedi targedu ni’n bendant neu ydi jyst yn randym achos bod wal yma. Dwi ddim eisiau speculate-io.

“Mae’n hollol annerbyniol, a dw i’n flin iawn fod staff sy’n gweithio gyda ni ac yn mynd i’r gwaith ac yn gwneud eu gwaith yn darganfod hwn ac mae’n shocking bod person yn wynebu hwn.”

Brexit yn ‘bwydo’r teimlad fod pobol yn gallu bod yn agored’

Mae ymosodiadau hiliol o’r fath wedi dod yn fwy cyffredin yn ddiweddar ac yn ôl Helgard Krause, dydy Brexit ddim wedi helpu’r sefyllfa, wrth i bobol deimlo bod agweddau hiliol yn dderbyniol.

“Dwi’n meddwl bod yr holl atmosffêr ar ôl Brexit â lot i wneud gyda hwn, yn fy marn i,” meddai.

“Dwi wedi clywed gan lot o ffrindiau sy’n dod o dramor sydd wedi cael comments fel “rhaid i chi fynd adre” a phethau fel hyn, felly efallai bod hwn yn bwydo’r teimlad fod pobol yn gallu bod yn agored…

“Beth sy’n bwysig yw bo ni ddim yn rhoi unrhyw le iddyn nhw, ac yn rhoi signals cryf iddyn nhw bo hyn ddim yn dderbyniol a dydi hyn ddim yn farn y mwyafrif o bobol.

“Ond dw i yn meddwl bod yr holl ffordd mae pobol yn trin unrhyw bwnc ar-lein yn arbennig a’r cyfryngau cymdeithasol wedi magu’r atmosffêr yma, yn fy marn i, ond dw i ddim yn gallu profi fe.

“Gyda’r etholiadau’n dod, efallai bod lot o bethau’n digwydd fel hyn achos mae pobol eisiau cael eu clywed, hyd yn oed os oes yna farn ac agweddau mor hyll gyda nhw.”

‘Dwi ddim yn arbennig o shocked

Wrth drafod y graffiti hiliol yn Aberystwyth, mae’n dweud nad yw hi’n “arbennig o shocked bod hyn wedi digwydd yn Aberystwyth”.

“Mae yna percentage fach iawn sy’n teimlo fel hyn, maen nhw’n bodoli yn unrhyw fan a does dim immunity,” meddai.

“Dwi ddim yn arbennig o shocked bod hyn wedi digwydd yn Aberystwyth, a bod yn onest.

“Dw i jyst yn teimlo’n angry iawn am y peth, ac mae angen gwneud yn siwr ein bod ni’n amddiffyn ein values.

“I rai pobol, maen nhw’n teimlo bod Aberystwyth yn immune i bethau fel hyn ond dyw hi ddim.

“Mae percentage o’r population sy’n teimlo fel hyn.

“Mae’n broblem ac mae wedi bodoli cyn Brexit, gyda llaw, yn fy marn i.

“Ond maen nhw’n teimlo, efallai, yn fwy hyderus nawr i roi e achos maen nhw’n credu bod mwy o grounds gyda nhw.

“Ond, wrth gwrs, dydi hyn ddim yn wir achos mae lleiafrif o bobol yn meddwl fel nhw.”

 

Adeilad y Cyngor

Graffiti hiliol ar adeilad y Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth

“Mae wedi cryfhau fy mhenderfyniad i fynd i’r afael â’r anghyfartaledd sy’n bod yn ein cymdeithas lle bynnag y down o hyd iddo,” meddai Helgard Krause