Mae Helgard Krause, prif weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, yn dweud bod y sawl sy’n gyfrifol am beintio arwyddion hiliol ar adeilad y sefydliad “wedi cryfhau fy mhenderfyniad i fynd i’r afael â’r anghyfartaledd sy’n bod yn ein cymdeithas lle bynnag y down o hyd iddo”.
Daw ei sylwadau ar ôl i graffiti hiliol ymddangos ar adeilad y Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 31).
Mae llun ar ei chyfrif Twitter yn dangos y graffiti ar yr adeilad yn Aberystwyth, ac mae hi wedi postio neges uniongyrchol at y sawl sy’n gyfrifol.
“I bwy bynnag beintiodd ein hadeilad @Books_Wales mewn graffiti hiliol a natsïaidd: fydd hi’n gwneud dim i’ch achos,” meddai rhan gynta’r neges.
“I’r gwrthwyneb, mae wedi cryfhau fy mhenderfyniad i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb sy’n bod yn ein cymdeithas lle bynnag y down o hyd iddo.”
To whomever who daubed our building @Books_Wales in racist and nazi graffiti: it will do nothing for your cause.The opposite, it has strengthened my resolve to address the inequalities that exist in our society wherever we find it. pic.twitter.com/cN1hf6WI5d
— Helgard Krause ??⚢ (@HelgardKrause) March 30, 2021
Negeseuon o gefnogaeth
Mae ei neges ar Twitter wedi denu ymatebion cryf gan ddegau o bobol leol a thu hwnt.
“Am ofnadwy!” meddai Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion.
“Gobeithio eich bod chi a’r staff yn iawn, a diolch am rannu neges glir a chadarn: fydd y rhai sy’n gyfrifol am hyn ddim yn llwyddo i’n tawelu, ond yn hytrach yn ein sbarduno i herio’u hanoddefgarwch ac agweddau erchyll yn gryfach fyth.”
Mae Elin Jones, Llywydd y Senedd ac Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yng Ngheredigion hefyd wedi ymateb.
“Ofnadwy meddwl fod hyn yn digwydd yn Aber, ac i’n Cyngor Llyfrau,” meddai.
“Afiach. Mater i’r heddlu yn bendant.”
Wrth ymateb i’r neges honno, mae Helgard Krause wedi cadarnhau ei bod hi wedi rhoi gwybod i’r heddlu.
Y Cyngor Llyfrau
Mae’r Cyngor Llyfrau yn cefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ac yn hyrwyddo darllen er pleser.
Cafodd yr elusen genedlaethol ei sefydlu yn y dref yn 1961, ac maen nhw bellach yn cyflogi tua 40 aelod o staff.
Maen nhw’n darparu gwasanaethau arbenigol i gyhoeddwyr ym meysydd golygu, dylunio, marchnata a dosbarthu er mwyn sicrhau safonau uchel o ran cynhyrchu a chyhoeddi deunydd yn y Gymraeg neu ddeunydd yn y Saesneg sy’n ymwneud â Chymru.
Maen nhw hefyd yn gyfrifol am weinyddu grantiau i gefnogi cyhoeddi llenyddol a chylchgronau yn y ddwy iaith, yn ogystal â gwasanaeth newyddion ar-lein.
Elfen bwysig arall o waith y Cyngor Llyfrau yw hybu llythrennedd a darllen er pleser, drwy sicrhau llif cyson o gyhoeddiadau a threfnu cyfres o weithgareddau arbennig yn dathlu darllen, gan gydweithio gydag ystod eang o bartneriaid yn y maes.
Daw eu cyllid yn rhannol gan Lywodraeth Cymru ac yn rhannol o weithgareddau masnachol a gwasanaeth cyfanwerthu eu Canolfan Ddosbarthu.
Mae eu prif swyddfa yng Nghastell Brychan yn Aberystwyth tra bod y Ganolfan Ddosbarthu wedi’i lleoli ar Barc Menter Glanyrafon ar gyrion y dref.