Mae peryg i’r argyfwng ail gartrefi sy’n wynebu cefn gwlad Cymru fygwth “cenhedlaeth goll” wrth i bobol ifanc gael eu prisio allan o’u cymunedau, a’u gorfodi i adael, yn ôl rhybudd gan Mabon ap Gwynfor.
Mae ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Dwyfor Meirionnydd wedi bod yn cyfeirio at ffigurau sy’n dangos bod tua 40% o’r stoc dai sy’n mynd ar y farchnad yng Ngwynedd bob blwyddyn yn cael eu prynu fel ail gartrefi bellach.
Daw hyn wedi i ystadegau newydd ddangos bod prisiau tai bron i chwe gwaith yn uwch na chyfartaledd yr incwm yng Nghymru yn ystod 2020.
Mae Mabon ap Gwynfor wedi datgelu pecyn polisïau ei blaid i fynd i’r afael â’r argyfwng, gan gynnwys caniatáu i gynghorau godi premiwm treth cyngor o hyd at 200% ar ail gartrefi.
Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys cau’r bwlch sy’n caniatáu i ail gartrefi gael eu cofrestru fel “busnesau”, a newid deddfau cynllunio i ganiatáu i gynghorau osod cap ar nifer yr ail gartrefi.
“Mae’r argyfwng ail gartrefi sy’n wynebu llawer o gymunedau gwledig yn bygwth gweld cenhedlaeth o bobl ifanc yn cael eu gorfodi i adael eu milltir sgwâr oherwydd eu bod yn cael eu prisio allan o’r ardal,” rhybuddia Mabon ap Gwynfor.
“Yng Ngwynedd, mae tua 40% o’r tai sy’n mynd ar y farchnad bob blwyddyn bellach yn cael eu prynu fel ail gartrefi ac rydym i gyd wedi gweld eiddo o’r fath yn cael ei hysbysebu ar symiau ofnadwy o uchel.
“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cyflwyno pecyn o bolisïau wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â’r argyfwng gan gynnwys caniatáu i gynghorau godi premiymau treth gyngor o hyd at 200% ar ail gartrefi, a chau’r bwlch sydd ar hyn o bryd yn caniatáu i ail gartrefi gael eu cofrestru fel ‘busnesau’ er mwyn osgoi’r premiwm.
“Byddem hefyd yn newid deddfau cynllunio i ganiatáu i gynghorau osod cap ar nifer yr ail gartrefi o fewn ardal awdurdod lleol, a chyflwyno rheoliadau i dreblu’r tâl Treth Trafodiad Tir ar brynu ail eiddo,” esbonia.
“Yn ogystal, byddai llywodraeth Plaid yn ailddiffinio’r term ‘cartref fforddiadwy’ sydd ar hyn o bryd yn cynnwys eiddo gwerth dros £ 250,000 – ffigur sydd allan o gyrraedd llawer o bobl ifanc yn ein cymunedau gwledig.
“Mae pobl ifanc wrth galon ein cymunedau gwledig a byddai llywodraeth Blaid wedi ymrwymo’n llwyr i roi pob cyfle iddynt ennill, dysgu a byw yn eu hardal o ddewis, ble bynnag yng Nghymru y gallai hynny fod.”
Rhwystr sylweddol i gymunedau gwledig
Yn ogystal, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi addo gweithredu ar yr argyfwng ail gartrefi, gan ddweud bod y sefyllfa wedi difetha nifer o gymunedau, gorfodi pobol i adael, ac atal eraill rhag prynu cartrefi yn eu cymunedau.
“Mae’r prinder tai fforddiadwy yn rhwystr sylweddol i gymunedau gwledig, ac i bobol eraill sy’n chwilio am ddyfodol yn eu cymunedau,” meddai Stephen Churchman, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Nwyfor Meirionnydd.
“Byddwn ni’n sicrhau bod y tai cywir yn cael ei hadeiladu yn y llefydd cywir er mwyn cyfarfod anghenion lleol.
“Byddwn ni’n gweithredu ar ail dai. Mae pobol mewn cymunedau gwledig wedi cael eu prisio allan, neu eu gadael â phrinder tai.
“Fe wnawn ni sefydlu deddfwriaeth fydd yn gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol osod trethi cyngor ar y lefel uchaf posib ar gyfer pob cartref nad yw’n brif gyfeiriad i rywun.
“Byddwn ni’n cau bylchau sy’n caniatáu i bobol ddefnyddio ail gartrefi fel busnesau, a sicrhau eu bod nhw’n talu eu ffordd i gefnogi cymunedau lleol.”