Mae prisiau tai bron i chwe gwaith yn uwch na chyfartaledd cyflog yng Nghymru, yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Yn 2020, roedd gweithiwr llawn amser yng Nghymru yn debygol o wario tua 5.9 gwaith ei gyflog blynyddol ar brynu cartref.
Roedd y gwahaniaeth yn uwch yn Lloegr, gyda phrisiau tai bron i wyth gwaith yn uwch na’r cyfartaledd cyflog.
Er hynny, nid oedd newid sylweddol yn y ffigurau o gymharu â 2019, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Ond mae tai wedi mynd yn llai fforddiadwy ers 1997, ychwanega’r Swyddfa.
Yng Nghymru, gwariodd gweithwyr amser llawn yng Nghymru 8.2 gwaith eu cyflog blynyddol ar dai oedd yn adeiladau newydd, tra eu bod nhw wedi gwario 5.7 gwaith eu cyflog ar ‘hen dai’, tai sy’n bodoli eisoes.
“Tai yn llai fforddiadwy fyth”
Yn ôl Sarah Coles, dadansoddwr cyllid ar gyfer Hargreaves Lansdown, mae cyfartaledd prisiau tai yn amrywio’n sylweddol o le i le, ac wrth ystyried y mathau gwahanol o dai.
“Mae ffigurau’r ddiweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod prisiau tai ar wahân wedi cynyddu 8.6% mewn blwyddyn, tra bod prisiau fflatiau wedi codi 2.6% dros yr un cyfnod.
“Golyga hyn ei bod yn anoddach fyth i bobol sy’n ceisio gwerthu fflat a phrynu tŷ,” esbonia.
“Pan mae hi’n dod i gynnydd mewn cyfartaledd cyflogau, gall hyn fod yn gamarweiniol hefyd. Tra bod cyfartaledd cyflog wedi codi’n sylweddol yn 2020, roedd hyn yn rhannol oherwydd bod llawer o’r swyddi sydd wedi diflannu yn ystod y pandemig yn rhai â chyflogau isel.
“Mae hyn yn gwthio’r cyfartaledd i fyny heb i gyflogau godi. Mae’n golygu mewn gwirionedd fod tai yn llai fforddiadwy fyth.”
Y llynedd cododd cyfartaledd pris tŷ yng Nghymru 8.2% – y cynnydd uchaf mewn 15 mlynedd.
Y pris cyfartalog erbyn hyn yw £209,723, y tro cyntaf erioed i’r pris cyfartalog fod dros £200,000.
Yn ôl Mynegai Prisiau Tai’r Principality, sydd yn seiliedig ar ffigyrau gwerthiant Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi, roedd cynnydd mewn prisiau tai yn ystod 2020 ym mhob un awdurdod lleol yng Nghymru.