Mae ystadegau newydd yn dangos bod 195,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, sy’n cynrychioli cynnydd i 31%.

Dangosa ffigurau gan Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod 4.3 miliwn o blant yn byw mewn tlodi yn y Deyrnas Unedig yn y flwyddyn ariannol 2019/20.

Mae hyn yn gynnydd o’r ffigwr o 4.1 miliwn o’r flwyddyn flaenorol, ac yn cyfateb i un ym mhob tri phlentyn.

Nid yw’r ffigurau hyn yn ystyried cyfnod y pandemig, ac mae elusen Achub y Plant yn “rhagweld y bydd miloedd yn ychwanegol yn croesi’r trothwy tlodi” yn sgil effeithiau’r pandemig.

Wrth ymateb i ystadegau Aelwydydd Islaw Incwm Cyfartalog, mae Achub y Plant yng Nghymru yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i “wneud yn siŵr fod plant ifanc wrth galon pob penderfyniad.”

Er mwyn cydweithio’n effeithiol, mae angen creu Cynllun Cyflawni Tlodi Plant gyda “thargedau uchelgeisiol i sicrhau nad yw’r un plentyn yn cael ei adael ar ôl oherwydd incwm y teulu,” meddai’r elusen.

“Digalondid mawr”

“Mae’n ddigalondid mawr i weld cymaint o gynnydd mewn tlodi plant yng Nghymru a hynny cyn i’r pandemig daro,” meddai Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru.

“Ni fydd y darlun cyflawn o beth yn union fydd effaith yr argyfwng yn amlwg am flwyddyn arall gan wneud i ni bryderu cymaint gwaeth fydd y ffigyrau yma erbyn hynny.

“Oherwydd y pandemig, rydym yn rhagweld y bydd miloedd yn ychwanegol wedi croesi’r trothwy tlodi o ganlyniad i golli swyddi a llai o incwm,” esbonia.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i wneud yn siŵr fod plant ifanc wrth galon pob penderfyniad, yn enwedig rheiny mewn teuluoedd incwm isel a lleihau’r effaith y mae tlodi yn ei gael ar eu datblygiad a’u haddysg.

“Fel y gallwn i gyd gydweithio yn effeithiol mae angen creu Cynllun Cyflawni Tlodi Plant gyda thargedau uchelgeisiol i sicrhau nad yw’r un plentyn yn cael ei adael ar ôl oherwydd incwm y teulu.

“Mae wedi bod yn gyfnod hynod o anodd i deuluoedd sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd dal deupen llinyn ynghyd. Dylai’r ffigurau diweddaraf yma fod yn gatalydd i lywodraethau i weithredu ar fyrder i wneud yn siŵr fod pob plentyn yn cael y dechrau gorau i fywyd,” ychwanega.