Mae’r Mudiad Meithrin wedi cyhoeddi prosiect newydd fydd yn cyflwyno hwiangerddi i blant mewn chwe iaith.
Bydd prosiect hwiangerddi Nodau Natur yn cynnwys cyfuniad o hwiangerddi Cymraeg a chaneuon syml yn Arabeg, Wrdw, Romaneg, Pwyleg, a Bangla.
Mae’r Mudiad Meithrin yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad addysg ar gymunedau du, Asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig yn y cwricwlwm newydd a gafodd ei gyhoeddi’r wythnos diwethaf.
Yn ôl y mudiad, mae “cynhwysiant yn rhan greiddiol” o’u gwaith, ac mae’r prosiect Nodau Natur yn enghraifft o hynny.
Mae traw cenedlaethol i’r prosiect gan fod y Mudiad wedi gweithio gyda’r cerddorion Siân James a Gwyneth Glyn, a’r grŵp gwerin Bragod i greu adnodd cerddorol cyfoes.
Hybu ethos amlddiwylliant o oed cynnar
Bwriad y prosiect yw hybu ethos amlddiwylliant o oed cynnar, fel bod plant yn gallu mwynhau a gwerthfawrogi diwylliannau ac ieithoedd eraill.
Mae’r pecyn addysg yn cynnwys naw o ganeuon, geiriau i’r caneuon, stori syml yn egluro eu tarddiad, a gweithgaredd crefft i’w cyfoethogi.
“Nod y prosiect Nodau Natur yw hybu ymwybyddiaeth o amrywiaeth treftadaeth Gymreig a Chymraeg gan ddathlu cymunedau a diwylliannau sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru ac i ysbrydoli rhagor o bobl i edrych yn fanylach ar dreftadaeth eu milltir sgwâr,” meddai’r Athro Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr y Mudiad Meithrin.
“Bydd hyn yn annog y plant i ganolbwyntio ar dreftadaeth mewn ystyr eang ac i ddathlu amrywiaeth a chyfoeth y diwylliannau a’r traddodiadau o’n cwmpas gan feithrin deialog ynglŷn â beth yw perthyn, hunaniaeth a hefyd gydnabod yr iaith Gymraeg fel arf pwerus i greu cymunedau cydlynol.”
Taith gyfoethog o gwmpas diwylliannau
Cafodd Nia Beynon, Ymgynghorydd a Hyfforddwraig y Blynyddoedd Cynnar, ei chomisiynu i ymgymryd â’r gwaith, ac meddai:
“Pan gefais fy nghomisiynu i lunio adnodd i blant ifancaf Cymru ei ddefnyddio, doeddwn i heb ystyried i ba raddau y byddwn yn cael mynd ar daith rithiol mor gyfoethog o gwmpas diwylliannau cenhedloedd eraill sydd wedi ymgartrefu yma yng Nghymru.
“Roedd y gwaith o gasglu’r rhigymau yn golygu fy mod wedi cydweithio gydag amryw gymunedau megis Indiaidd, Arabeg, Romanaidd, a Phwyleg yn ogystal â’n cymuned draddodiadol Gymraeg.
“Mae gweithio ar y casgliad o rigymau wedi ehangu fy ngorwelion i fy hun ac rwy’n mawr obeithio y bydd plant bach Cymru yn elwa gymaint o’u canu ac y gwnes i wrth eu casglu!”
“Mae canu rhigymau yn gyflwyniad gwych i unrhyw iaith – boed hynny i’n hiaith ni ein hunain, neu i ieithoedd ein ffrindiau. Dwi wedi cael modd i fyw yn canu mewn ieithoedd hollol newydd i mi,” meddai Gwyneth Glyn.
“Dyma un o’r prosiectau hyfrytaf a mwyaf ysbrydoledig i mi ymwneud â hi ers tro byd. Diolch o waelod calon am y fath fraint ac edrychaf ymlaen yn eiddgar i glywed y plant bach yn cydganu’r rhigymau bach bendigedig yma,” ychwanega Siân James.