Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryderon ynghylch canllaw arfaethedig gan Lywodraeth Cymru i gategoreiddio ysgolion yn ôl eu darpariaeth Gymraeg.
Nod y canllaw, yn ôl Llywodraeth Cymru, yw cynyddu faint o addysg Gymraeg mae ysgolion yn ei ddarparu.
Ond, yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae’r categorïau newydd yn “llawer rhy eang, a byddai’r canllaw newydd fel y mae yn gwneud categori ‘ysgol cyfrwng Cymraeg’ yn ddiystyr”.
Byddai’r canllaw yn arwain at “wanhau categori ysgol cyfrwng Cymraeg,” yn ôl y mudiad.
Mae Llywodraeth Cymru yng nghanol y broses o ymgynghori ar y canllaw arfaethedig, a bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben nos Wener (26 Mawrth).
“Dim cymhelliant i ysgolion gynyddu eu darpariaeth Gymraeg”
“Rydyn ni’n croesawu lleihau’r nifer o gategorïau fel nad oes angen i ysgol fynd trwy gymaint o brosesau ffurfiol i gynyddu ei darpariaeth Gymraeg, a’r nod o hwyluso cynnydd yn narpariaeth Gymraeg pob ysgol,” meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
“Ond mae’r categorïau fel maen nhw wedi’u dylunio ar hyn o bryd yn llawer rhy eang i annog y cynnydd hynny.
“Byddai’n cynnwys ysgolion lle mae pob pwnc heblaw Saesneg yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg i rai lle mae dim ond rhai disgyblion yn dilyn rhan fwyaf o’u pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg,” esbonia Mabli Siriol.
“Bydd dim cymhelliant felly i ysgolion gynyddu eu darpariaeth Gymraeg, ac yn wir mae risg bydd y ddarpariaeth Gymraeg mewn rhai ysgolion yn llithro.
“Mae angen i’r Llywodraeth ail-ddrafftio’r categorïau fel eu bod yn gwahaniaethu rhwng gwahanol lefelau o ddarpariaeth, yn gwarchod cydnabyddiaeth o ysgolion cyfrwng Cymraeg cyflawn, ac annog pob ysgol i symud tuag at y model hynny.
“Ynghyd â’r categorïau eu hunain, mae hefyd angen system o gymhelliannau ac adnoddau i annog pob awdurdod lleol a phob ysgol i gynyddu eu darpariaeth Gymraeg dros amser,” ychwanega.
“Y ffordd i wneud hyn yw trwy gyflwyno deddf addysg Gymraeg newydd yn y Senedd nesaf fydd yn gosod targedau statudol o ran hyfforddi’r gweithlu a chynyddu addysg Gymraeg ar draws y wlad.”