Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y rheol aros yn lleol yn cael ei disodli gan ‘ardal deithio dros dro i Gymru gyfan’, o ddydd Sadwrn 27 Mawrth ymlaen.

Bydd chwech o bobl yn cael cwrdd yn yr awyr agored, a bydd y sector twristiaeth yn cael dechrau ailagor wrth i’r rheol aros yn lleol gael ei chodi.

Mewn datganiad, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fod “y llacio pellach hwn yn rhan o’n dull gofalus a graddol o ddatgloi’r cyfyngiadau”.

Rhagor o fanylion

Bydd hyd at chwech o bobl o ddwy aelwyd wahanol yn cael cyfarfod ac ymarfer corff yn yr awyr agored ac mewn gerddi preifat. Nid yw plant dan 11 oed yn cyfrif tuag at y nifer.

Bydd gweithgareddau awyr agored a chwaraeon wedi’u trefnu i blant a phobl ifanc dan 18 oed a hŷn yn cael eu caniatáu.

Bydd rhai ardaloedd awyr agored yn agor, gyda chyfyngiadau, ynghyd â rhai lleoedd a gerddi hanesyddol.

Bydd llety gwyliau hunan-ddarpar, gan gynnwys gwestai â chyfleusterau en-suite a gwasanaeth ystafell, yn gallu ailagor i bobl o’r un aelwyd neu swigod cymorth.

Bydd llyfrgelloedd ac archifau yn gallu ailagor.

Teithio

Bydd yr ardal deithio dros dro i Gymru gyfan, sy’n disodli’r rheol aros yn lleol, yn parhau i fod ar waith tan 12 Ebrill, yn amodol ar sefyllfa iechyd y cyhoedd.

Felly am y pythefnos nesaf, dim ond y rhai sydd ag esgus rhesymol, megis gwaith, fydd yn gallu teithio i mewn i Gymru neu allan o Gymru.

Bydd y cyfyngiadau presennol ar deithio rhyngwladol ar gyfer gwyliau yn parhau.

Dyfodol

Mae Cymru bellach yn symud allan o ‘rybudd lefel pedwar’, ac yn dechrau symud i ‘lefel tri’.

Caiff yr adolygiad nesaf o’r rheoliadau ei gynnal yr wythnos nesaf.

Bryd hynny, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y llacio canlynol, a ddaw i rym o’r 12 Ebrill, yn amodol ar sefyllfa iechyd y cyhoedd:

  • Pob disgybl a myfyriwr i ddychwelyd i ysgolion, colegau ac addysg arall;
  • Pob siop a gwasanaeth cyswllt agos i gael agor;
  • Llacio’r cyfyngiad dros dro o ardal deithio ledled Cymru.

“Cam wrth gam”

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Rydym yn cymryd dull cam wrth gam tuag at lacio’r cyfyngiadau ac eisiau parhau i allu agor Cymru.

“I wneud hynny mae angen help pawb arnom. Mae hynny’n golygu cadw’n wyliadwrus am arwyddion o’r haint; ynysu os oes gennym symptomau a threfnu i gael prawf.

“Mae hefyd yn golygu dilyn y camau sylfaenol i’n cadw ni i gyd yn ddiogel tra byddwn ni allan – gan gadw ein pellter oddi wrth eraill; peidio â chymysgu dan do; osgoi torfeydd; golchi ein dwylo’n rheolaidd a gwisgo gorchuddion wyneb.”