Mae’r cwymp mewn traffig ym mhorthladd Caerffili yn “fwy na teething problems” ac mae pobol y dre wedi “digalonni”.
Dyna mae Bob Llewelyn Jones, cynghorydd Sir yn ynys Môn, wedi ei ddweud wedi iddo ddod i’r amlwg bod traffig yno o hyd yn 50% y ffigwr a oedd yno’r llynedd.
Mae mwyfwy o nwyddau yn cael eu cludo rhwng Iwerddon a’r cyfandir dros y môr, sy’n golygu bod llai o lorïau yn dewis teithio trwy Gymru a Lloegr.
Daeth y broblem yn sgil diwedd cyfnod pontio Brexit, a’r cynnydd mewn gwaith papur, ac mae Llywodraeth San Steffan wedi dadlau mai problem dros dro yw’r cyfan.
Ond mae ystadegau’r Adran Drafnidiaeth yn dangos bod traffig yn isel o hyd, ac mae Bob Llewelyn Jones o’r farn bod rhywbeth dyfnach ar waith.
“Roedd [cyfaill sy’n gweithio yn y porthladd] yn deud … does dim llawer o bethau wedi pigo fyny,” meddai wrth golwg360.
“Ac mae o’n beryg, deud y gwir, beth sy’n digwydd yma. Mae pethau yn gweithio yn erbyn Caergybi rŵan efo’r porthladd.
“Yn yr hen ddyddiau roedd pobol yn trafaelio trwy fa’ma ac wrth eu bodd cael gwneud o am y rheswm ei bod o mor sydyn i gael at Ddulyn. Ond dyddiau yma mae pethau wedi mynd yn haywire.”
“Mae’n fwy na teething problems,” meddai wedyn.
Er gwaetha’r gwaith papur
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi cynllun a fydd, maen nhw’n gobeithio, yn helpu gyda’r broblem.
Wrth gyhoeddi’r cynllun mae Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, wedi rhannu barn go debyg i’r cynghorydd.
“Nid problemau cychwynnol yn unig yw’r rhain, ond materion craidd gyda’r rheolau a’r prosesau newydd sydd wedi’u sefydlu ers [diwedd y cyfnod clo],” meddai’r gweinidog.
Yn ôl y cynghorydd, roedd yna deimlad, yn wreiddiol, y byddai pethau’n gwella wrth i gwmnïau arfer â’r gwaith papur ychwanegol.
Mae yna bryder cynyddol yng Nghaergybi nad yw’r ateb mor syml â hynny.
“Mae pobol yn ddigalon a deud y gwir. Rydan ni wedi … trïo cael [y lorïau] i ddod yn ôl,” meddai.
“Ond does dim byd yn helpu nhw.
“Y rheswm, ar ôl ‘Dolig, oedd y papurau. Bod eu llenwi yn rhy galed, a’u bod yn cael eu troi yn ôl a phethau fel’na.
“Ond maen nhw wedi cael digon o amser rŵan i sortio hynna allan.”