Mae angen gwell cydweithio rhwng llywodraethau’r Deyrnas Unedig, yn ôl adroddiad hirddisgwyliedig.
Ym mis Gorffennaf 2019 cafodd Arglwydd Dunlop ei gomisiynu gan y cyn-Brif Weinidog, Theresa May, i ystyried sut y gellir cryfhau’r undeb.
Cafodd ei gwblhau ym mis Tachwedd 2019, ond bu oedi mawr wedi hynny a ni chyhoeddwyd tan brynhawn ddydd Mercher.
Mae’r adroddiad yn galw am benodi gweinidog a fyddai’n cynrychioli’r undeb ar gabinet San Steffan, ac am gyfarfodydd rheolaidd rhwng arweinwyr y cenhedloedd.
Mae hefyd yn galw am gronfa ar gyfer prosiectau a fyddai’n destun cydweithio rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraethau datganoledig.
“Dyw cydweithio ddim yn opsiynol mwyach – os oedd erioed,” meddai’r Arglwydd Dunlop. “Mae’n rhan sylfaenol o’r busnes o lywodraethu’r ynysoedd yma.”
Sylwadau ac ymatebion
Dyw mecanwaith perthynas y llywodraethau “ddim yn addas mwyach, ac mae angen dybryd i’w ddiwygio,” yn ôl Arglwydd Dunlop.
Mae hefyd yn dweud bod yn dweud ei fod “yn bwysig bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn weladwy o ran yr hyn mae hi’n ei wneud ac yn ei ariannu” ac ni ddylai “deimlo embaras o hyrwyddo hi ei hun”.
“Dylai bod brandio Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn glir ar weithgarwch Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon,” meddai.
Mae Llywodraeth San Steffan yn dweud ei bod eisoes wedi mabwysiadu’r rhan fwyaf o argymhellion yr adroddiad.
Mae ymateb Llywodraeth Cymru tipyn yn fwy tanllyd.
Yn ymateb i amseriad cyhoeddiad yr adroddiad mae Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, wedi rhannu ei “siom a rhwystredigaeth fawr”.